Cyngor Busnes: Diogelwch Bwyd a Chydymffurfiaeth Safonau
Pam wnaethom ni gyflwyno taliadau?
Fel gydag awdurdodau lleol ar hyd a lled y DU, rydym yn dal i wynebu gostyngiadau yng nghymorth ariannol y Llywodraeth ac, o ganlyniad, rydym yn gorfod gwneud penderfyniadau cyllidebu anodd.
Mae mwyafrif llethol swyddogaethau ein Tîm Diogelwch a Safonau Bwyd yn ofynion statudol a chânt eu gwneud yn unol â chanllawiau statudol.
Fodd bynnag, mae darparu ymweliadau cynghorol, a gweithgareddau cysylltiedig o fath ymgynghorol, yn fwy na'r hyn y mae gofyn i ni wneud ac, yn anffodus, nid ydynt yn gynaliadwy mwyach fel gwasanaeth di-dâl.
ID: 1566, adolygwyd 12/10/2022