Eich Iechyd

Gofal Ysbyty Derbyn

Derbyn

Pa un a ydych yn cael eich derbyn i’r ysbyty drwy apwyntiad neu yn dilyn damwain neu achos brys, gall fod yn brofid brawychus, ond mae’r staff clinigol yno i sicrhau eich bod yn cael gofal da a’ch bod yn cael y driniaeth sydd ei hangen arnoch.

Rhaid i staff yr ysbyty:

  • barchu eich preifatrwydd, eich urddas a’ch daliadau crefyddol a diwylliannol
  • parchu cyfrinachedd wrth ymdrin â’ch triniaeth
  • gofalu amdanoch mewn amgylchedd glân a diogel
  • darparu nyrs enwebedig sy’n gyfrifol am eich gofal.

Gall arhosiad hir mewn ysbyty effeithio ar y budd-daliadau y mae gennych hawl iddynt. Gweler Cymorth a chyngor ariannol
 

Cynllun Pili Pala

Mae’r cynllun pili pala i gleifion mewn ysbyty sy’n dioddef o ddementia, nam ar y clyw neu ddryswch.  Mae’r cynllun yn sicrhau bod staff yn dilyn cynllun ymateb arbennig ar ôl iddynt weld symbol Pili Pala bach yn ymyl enw’r claf. Gofynnir i’r gofalwyr hefyd lanw a dychwelyd taflen benodol fel y gellir rhannu gwybodaeth werthfawr am ofynion gofal eu hanwyliaid â’r staff sy’n gofalu amdanynt yn ystod eu cyfnod yn yr ysbyty. Os hoffech chi (fel y claf neu’r gofalwr) ymuno â’r cynllun hwn, siaradwch gydag aelod o staff yn yr ysbyty.

Rhyddhau

Ar ôl cwblhau eich triniaeth, bydd yr ysbyty’n eich rhyddhau. Cyfrifoldeb yr ysbyty yw sicrhau nad ydych yn gadael ysbyty oni bai bod trefniadau digonol wedi cael eu gwneud ar gyfer unrhyw gefnogaeth y gallech fod ei hangen yn y gymuned. Gall y trefniadau hyn gael eu gwneud gan y Gwasanaethau Oedolion, a fydd yn gweithio ar y cyd â staff yr ysbyty, er mwyn asesu eich anghenion a gwneud trefniadau ar gyfer unrhyw ofal sydd ei angen.

Cynllunio ar gyfer rhyddhau

Bydd yr ysbyty’n trafod trefniadau tra rydych yn yr ysbyty. Gallwch ddechrau cynllunio cyn gynted ag y byddwch wedi siarad gyda’r meddyg.Bydd angen i chi ystyried am ba hyd y byddwch yn yr ysbyty ac a fydd angen cymorth arnoch gydag ymrwymiadau yn eich cartref fel gofalu am anifail anwes. Pan fyddwch chi’n cael eich rhyddhau, gallwch dderbyn cymorth i fynd adref a setlo yno. Gall hyn gynnwys sicrhau bod y cyfarpar angenrheidiol ar gyfer eich adferiad yn barod amdanoch a bod yno hefyd bethau hanfodol fel bara a llaeth. Bydd staff y ward yn eich helpu i drefnu hyn gyda mudiadau gwirfoddol a gwasanaethau cymdeithasol lle bo hynny’n briodol. Mae PAVS (yn agor mewn tab newydd) hefyd yn gallu eich cynorthwyo i ganfod gwasanaethau gwirfoddol allai eich helpu. 

Dewis Cymru (yn agor mewn tab newydd) y w’rlle i fynd os ydych chi eisiau gwybodaeth neu gyngor am eich llesiant – neu eisiau gwybod sut allwch chi helpu rhywun arall.

Gwasanaeth Nyrsio Cymunedol

Gofal Iechyd Parhaus y GIG

Mae gofal iechyd parhaus y GIG yn cael ei ariannu gan y GIG ar gyfer unigolion nad ydynt yn yr ysbyty ac yr aseswyd bod ganddynt ‘angen iechyd sylfaenol’. Bydd gofynion pobl sydd ag anghenion iechyd a gofal cymdeithasol cymhleth yn cael eu hasesu gan weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol. Bydd darparu gofal iechyd parhaus yn gofyn am benderfyniad amlddisgyblaethol mewn trafodaeth â’r unigolyn a’i deulu/eiriolwr. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i GIG Cymru (yn agor mewn tab newydd) 

Gwasanaeth Nyrsio Cymunedol

Ar gyfer cleifion sy’n methu â mynd i syrjeri neu glinig. Mae nyrsys ardal yn gweithio mewn partneriaeth â chleifion, teuluoedd a gofalwyr i ddarparu gofal nyrsio medrus yn y cartref, hybu a chynnal annibyniaeth cleifion a rhoi cyngor a chefnogaeth.

Tîm Ymateb Aciwt (ART)

Mae’r Tîm Ymateb Acíwtyn darparu gofal nyrsio acíwt yn y gymuned fel dewis arall yn lle mynd i ysbyty ac yn helpu i hwyluso rhyddhau o ysbyty’n gynharach drwy ddarparu’r gofal sydd ei angen yn y cartref. Mae’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu i gleifion dros 16 oed sydd wedi cael eu hasesu fel rhai sy’n ddigon sefydlog o safbwynt meddygol i gael eu gofal nyrsio yn eu cartref eu hunain neu mewn lleoliad cymunedol amgen yn Sir Benfro. Mae’r gwasanaeth cymunedol 24 awr hwn yn gweithredu 7 niwrnod yr wythnos.

Ymarferwyr Nyrsio Cyflyrau Cronig 

Gweithio ochr yn ochr â thimau Nyrsys Ardal yn Sir Benfro er mwyn rhoi cefnogaeth ac arweiniad i bobl sydd â chyflyrau hirdymor, gan eu hannog i ofalu am eu hiechyd eu hunain. Maent yn galluogi unigolion i aros yn eu hamgylchedd eu hunain am gymaint o amser ag sy’n bosibl a thrwy hynny leihau nifer y cleifion sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty. Cyfeirir pobl at y gwasanaeth hwn gan eu Meddyg Teulu, Nyrs Ardal, ysbyty neu aelod o un o’r timau Adnoddau Cymunedol. Eu horiau gwaith yw 9am tan 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Cynghorwyr Ymataliaeth 

Roi cyngor arbenigol i chi ynglŷn â sut i reoli anymataliaeth. Mae nifer o wahanol gyflyrau’n achosi i chi golli rheolaeth dros eich pledren neu eich coluddyn, felly dylech bob amser fynd i weld eich meddyg er mwyn darganfod beth sy’n achosi’r broblem. Mae llawer o gymhorthion a chyfarpar a all ei gwneud yn llawer haws i chi ymdopi ag anymataliaeth, ac mae’n bosibl cael gwellhad llwyr mewn rhai achosion â chymorth cynghorydd ymataliaeth. Cysylltwch â’ch Meddyg Teulu i gael rhagor o fanylion

Gallwch hefyd gael cymorth gan: The Bladder and Bowel Foundation (yn agor mewn tab newydd) 

ID: 10622, adolygwyd 27/10/2023