Elusennau Addysgol

Elusen Addysg Arberth

I fod yn gymwys i dderbyn arian o’r Gronfa, mae’n rhaid i ymgeisydd unigol fod yn ieuengach na 25 mlwydd oed ar Awst 31 (yn y flwyddyn y gwneir cais am arian or’r Gronfa) a rhaid iddo, ar yr adeg y gwneir y cais, fod yn preswylio yn yr ardal a wasanaethir gan y Gronfa ac wedi byw yno am o leiaf ddwy flynedd. 

Bydd y gronfa hefyd yn ystyried ceisiadau am gymorth ariannol gan mudiadau lleol sy’n ymwneud â gweithgareddau ieuenctid/a hyrwyddo addysg er mwyn y bobl ifanc/plant sy’n byw o fewn dalgylch y Gronfa.

Yr ardal a wasanaethir gan y Gronfa yw ardal cynghorau cymuned Arberth, Llawhaden, Llanddewi Felffre, Llanbedr Felffre (gan gynnwys Tavernspite a’r Eglwys Lwyd), Templeton, Martletwy (gan gynnwys Lawrenny), Begeli, rhan o Jeffreston, Minwere a Reynalton.

Bydd ffurfleni gais ar gal o 20 Awst wrth 2E Neuadd y Sir, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1TP. Rhif ffôn 01437 775754

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 31 Hydref 2023

 

ID: 3721, adolygwyd 30/08/2023