Ysgolion Cynaliadwy
Cynllun Gwobr Ysgolion Cynaliadwy
Mae Cynllun Gwobr Ysgolion Cynaliadwy (CGYC) Cyngor Sir Penfro yn ceisio hyrwyddo datblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang1 yn ysgolion Sir Benfro. Mae’n edrych yn gyfannol ar hyn ac yn annog ysgolion i fewnosod cynaliadwyedd ac agwedd fyd-eang drwy eu holl weithgareddau.
Y nod yw ymgorffori Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang (ADCDF) yng nghwricwlwm ac agwedd gymunedol gweithgareddau ysgol yn ogystal â sicrhau bod yr ysgol yn cael ei rheoli gyda’r un egwyddorion.
Cyflwynodd Llywodraeth Cymru ei gweledigaeth o gynaliadwyedd ac addysg fyd-eang yn y “ADCDF Dealltwriaeth Gyffredin ar gyfer Ysgolion”.
Mae CGYC yn sefydlu fframwaith i ysgolion gyfuno a chyfnerthu ADCDF ar draws eu gweithgareddau. Yr 8 pwnc sy’n rhoi man cychwyn i CGYC yw Bioamrywiaeth, Dinasyddiaeth Fyd-eang, Ynni, Dŵr, Gwastraff ac Ysbwriel, Iechyd, Cludiant, Dinasyddiaeth Gymunedol.
Bydd ysgolion yn gweithio ar y dyfarniad ar 3 brif lefel, sef Efydd, Arian ac Aur. Yna gall ysgolion sy’n dal Gwobr Aur gaffael Mes i ddangos eu hymroddiad i wneud cynnydd pellach.
Daeth Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (DLlCD) yn gyfraith ym mis Ebrill 2016. Mae’n berthnasol i gyrff cyhoeddus mawr yng Nghymru fel Cyngor Sir Penfro. Mae Cynllun Gwobr Ysgolion Cynaliadwy yn enghraifft o un o’r ffyrdd y mae’r Cyngor Sir yn gweithio tuag at nodau’r Ddeddf.
Mae Cynllun Gwobr Ysgolion Cynaliadwy hefyd yn cynorthwyo gwaith y Cyngor Sir tuag at amryw o’i gyfrifoldebau statudol, gan gynnwys Deddf yr Amgylchedd (Cymru) (Bioamrywiaeth), Strategaeth Tuag at Ddyfodol Diwastraff, Cynllun Cludiant Rhanbarthol, Y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr a mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru).
Mae Cyngor Sir Penfro’n darparu cymorth i ysgolion sy’n dilyn y wobr fel a ganlyn:
Caiff cynnydd ysgolion drwy’r cynllun gwobrau ei gynorthwyo gan y Swyddog Gwobr Ysgolion Cynaliadwy. Fe all ysgolion gysylltu â’r swyddog am gymorth ar unrhyw gyfnod o’r broses i gynorthwyo gyda chynllunio neu ddatblygu gweithgareddau.
Mae Diwrnod Rhwydwaith Ysgolion Cynaliadwy’n gyfle i staff ysgol rannu eu gwaith tuag at y gwobrau a chymryd rhan mewn gweithdai.
Mae gweithdai ar gael i ddisgyblion ysgolion sy’n cymryd rhan yn y cynllun i gynorthwyo eu gwaith ar y pynciau.
Bydd cynllun Gwobr Ysgolion Cynaliadwy’n trefnu achlysuron, prosiectau a chystadlaethau drwy gydol y flwyddyn i helpu ysgolion weithio tuag at y wobr.
Gwybodaeth Ddefnyddiol
Tudalen Llywodraeth Cymru ar Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang
Cysylltiadau
Rheolwr CSP - Steve Keating steve.keating@pembrokeshire.gov.uk
Swyddog Ysgolion Cynaliadwy - Janie Pridham janiepridham@btconnect.com