Ysgolion Sir Benfro
Ysgolion Sir Benfro
Mae gan Sir Benfro gymysgedd o ysgolion, gan gynnwys y rheini sy’n darparu addysg cyfrwng Gymraeg+/neu Saesneg ac ysgolion ffydd. I weld rhestr o ysgolion a chategorïau iaith, gweler ein Gwybodaeth i Rieni (dolen isod).
Mae ysgolion yn gweithredu ar sail 'Clwstwr Ysgolion' ac mae cydweithrediad agos rhyngddynt. Mae'r clwstwr yn cynnwys ysgol uwchradd a'r ysgolion cynradd sy'n ei bwydo. Nod model y Clwstwr Ysgolion yw cryfhau'r cysylltiadau rhwng ysgolion mewn ffordd sy'n cynnig cynnydd, parhad a chynhaliaeth ar gyfer disgyblion wrth iddynt symud trwy wahanol gamau eu haddysg.
O ran trosglwyddiadau Uwchradd, mae disgyblion fel arfer yn trosglwyddo i’r ysgol gyswllt o fewn y Clwstwr ysgolion. Gwahoddir ceisiadau trosglwyddo gan rieni yn ystod tymor yr hydref y flwyddyn y mae’r plentyn ym Mlwyddyn 6.
Mynediad i Ysgolion (Gwybodaeth i Rieni)