Ysgolion Sir Benfro
Cynllun Strategol Y Gymraeg Mewn Addysg 2022-31
Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd statudol i baratoi a chyflwyno Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg.
Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd statudol i baratoi a chyflwyno Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg. Rhaid i’r cynlluniau osod targedau heriol ar gyfer datblygu addysgu cyfrwng Cymraeg yn eu hardaloedd a dangos camau gweithredu clir i fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd i ddatblygu addysg cyfrwng Cymraeg.
Mae rheoliadau newydd yn darparu bod awdurdod lleol yn darparu ar gyfer paratoi CSCA deng mlynedd o mis Medi 2022 ymlaen. Fe fydd y CSCA newydd i bob pwrpas yn dod yn gonglfaen i gyfraniad Cyngor Sir Penfro tuag at wireddu dyhead Llywodraeth Cymru i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Y weledigaeth ar gyfer CSCA’r cyngor yw:
Sicrhau bod yr holl ddisgyblion yn gallu cael mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg o'r safon uchaf
…a bod hyn yn seiliedig ar yr egwyddorion allweddol canlynol:
- Cydnabod hawl pob plentyn i ddysgu Cymraeg a hyrwyddo manteision dwyieithrwydd;
- I gynyddu’r canran o ddisgyblion sy’n dewis addysg cyfrwng Cymraeg ac i sicrhau ei fod ar gael i’r holl ddysgwyr, o fewn pellter teithio rhesymol i’w cartrefi;
- I adeiladu ar gyflawniadau’r gorffennol a hybu’r safonau uchaf posibl yn neilliannau academaidd disgyblion;
- Y bydd dysgwyr sydd wedi dilyn y rhaglen Cymraeg iaith 1af yn y cyfnod cynradd yn cael eu hannog i barhau â hyn ac y bydd disgwyl iddynt wneud hynny wrth drosglwyddo i gyfnodau allweddol dilynol yn y cyfnod uwchradd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targedau heriol sy'n rhaid eu cyrraedd fel rhan o'r CSCA. Mae gofyniad i gyrraedd 'targed cyffredinol sy'n amlinellu'r cynnydd disgwyliedig o blant Blwyddyn 1 sy'n cael eu dysgu drwy'r Gymraeg yn ardal yr awdurdod lleol yn ystod oes y cynllun'.
Yn ogystal â'r targed cyffredinol, mae Llywodraeth Cymru wedi gosod saith deilliant sy'n rhaid eu cyrraedd fel rhan o'r CSCA. Mae'r deilliannau'n adlewyrchu taith addysg dysgwr ac yn gyson â meysydd polisi Cymraeg 2050 ac Addysg yng Nghymru: Ein Cenhadaeth Genedlaethol.
Deilliant 1
Mwy o blant meithrin/tair oed yn cael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg
Deilliant 2
Mwy o blant dosbarth derbyn/pump oed yn cael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg
Deilliant 3
Mwy o blant yn parhau i wella eu sgiliau Cymraeg wrth drosglwyddo o un cyfnod o'u haddysg statudol i un arall
Deilliant 4
Mwy o ddysgwyr yn astudio ar gyfer cymwysterau Cymraeg (fel pwnc) a phynciau drwy gyfrwng y Gymraeg
Deilliant 5
Mwy o gyfleoedd i ddysgwyr ddefnyddio'r Gymraeg mewn cyd-destunau gwahanol yn yr ysgol
Deilliant 6
Cynnydd yn y ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (“ady”) yn unol â'r dyletswyddau a bennir gan y ddeddf anghenion dysgu ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018
Deilliant 7
Cynnydd yn nifer y staff addysgu sy'n gallu addysgu Cymraeg (fel pwnc) a thrwy gyfrwng y Gymraeg