Ysgolion Sir Benfro
Newid a Reoleiddir i gynyddu nifer y disgyblion y mae'r ysgol yn darparu ar eu cyfer - Ysgol Portfield
Adroddiad Ymgynghori
Gorffennaf 2022
Rhagair
Mae Cyngor Sir Penfro’n gyfrifol am hybu safonau addysgol uchel ac am ddarparu addysg gynradd ac uwchradd effeithlon. Mae bod â’r ysgolion iawn yn y lleoedd iawn a sicrhau eu bod yn addas ar gyfer dysgwr yr 21ain ganrif yn her sy’n wynebu cynghorau ledled Cymru.
Mae ymateb i’r her hon yn golygu adolygu nifer yr ysgolion a’r math o ysgolion sydd gan y Cyngor yn ei ardal ac asesu pa un a yw’r defnydd gorau’n cael ei wneud o’i adnoddau a’i gyfleusterau.
Mae’r Cyngor yn adolygu ei ddarpariaeth ar sail:
- Ansawdd y ddarpariaeth addysg a’i chynaliadwyedd yn y dyfodol
- Digonolrwydd a hygyrchedd lleoedd mewn ysgolion
- Cyflwr, addasrwydd a safon adeiladau ysgolion
- Gwerth am arian
Mae’r Adroddiad Ymgynghori hwn yn nodi canfyddiadau’r ymgynghoriad statudol a gynhaliwyd ynghylch y cynnig i gynyddu nifer y disgyblion y mae Ysgol Portfield yn darparu ar eu cyfer. Mae’r holl ymatebion a gafwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori wedi’u cofnodi, ynghyd â chrynodeb o bob un o’r materion a godwyd gan ymgyngoreion. I gyd-fynd â’r rhain ceir eglurhad neu wrthodiad (fel y bo’n briodol) mewn ymateb i unrhyw bryderon.
Bydd Cyngor Sir Penfro’n ystyried yr Adroddiad Ymgynghori hwn yn ei gyfarfod ar 14 Gorffennaf 2022.
Steven Richards-Downes
Cyfarwyddwr Addysg
Dosbarthu’r Adroddiad Ymgynghori
Cyflwyniad
Mae dyletswydd statudol ar Gyngor Sir Penfro i sicrhau digon o leoedd a’r rheiny’n lleoedd addas mewn ysgolion yn ei ardal a phenderfynu a yw’n gwneud y defnydd gorau o’r adnoddau a’r cyfleusterau i ddarparu’r cyfleoedd y mae plant yn eu haeddu.
Yn ei gyfarfod ar 14 Hydref 2021, fe wnaeth Cyngor Sir Penfro ystyried adroddiad a oedd yn nodi cynnig i fwrw ymlaen ag ailddatblygu campws Ysgol Portfield fel rhan o Raglen Ysgolion 21ain Ganrif y Cyngor; canlyniad hyn fyddai cynnydd yn nifer y disgyblion y mae’r ysgol yn darparu ar eu cyfer. Roedd penderfyniad y Cyngor fel a ganlyn:
Awdurdodi’r Cyfarwyddwr Addysg i gynnal ymgynghoriad statudol ynghylch newid a reoleiddir i Ysgol Portfield er mwyn cynyddu nifer y disgyblion y mae’r ysgol yn darparu ar eu cyfer
Cynhaliwyd yr ymgynghoriad statudol dilynol yn ystod y cyfnod rhwng 15 Mawrth a 29 Ebrill 2022.
Mae’r ddogfen hon yn cynrychioli cyfrifoldeb y Cyngor Sir fel rhan o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 i gyhoeddi Dogfen Ymgynghori. Mae’r ddogfen hon:
- Yn crynhoi pob un o’r materion a godwyd gan ymgyngoreion;
- Yn ymateb i’r materion hyn trwy egluro neu wrthod y pryderon ynghyd â rhesymau ategol, ac
- Yn nodi barn Estyn am rinweddau’r cynnig ar y cyfan.
Dosbarthu’r Adroddiad Ymgynghori
Bydd yr Adroddiad Ymgynghori hwn yn cael ei ddosbarthu i’r canlynol:
Cyrff Llywodraethu, Rhieni/Gofalwyr/Gwarcheidwaid a Staff:
- Ysgol Portfield
- Ysgol y Preseli
- Ysgol Wirfoddol a Reolir Dinbych-y-pysgod
- Ysgol Gymunedol Doc Penfro
- Ysgol Gymunedol Priordy Cil-maen
- Ysgol Harri Tudur
- Ysgol Wirfoddol a Reolir Gelliswick
- Ysgol Gynradd Gymunedol Johnston
- Ysgol Gynradd Gymunedol Fenton
- Ysgol Gynradd Gymunedol Waldo Williams
- Ysgol Glannau Gwaun
- Ysgol Bro Gwaun
Yr aelodau etholedig canlynol:
- Paul Davies AS – Etholaeth
- Samuel Kurtz AS - Etholaeth
- Cefin Campbell AS – Rhanbarthol
- Joyce Watson AS – Rhanbarthol
- Eluned Morgan AS – Rhanbarthol
- Jane Dodds AS - Rhanbarthol
- Stephen Crabb AS
- Simon Hart AS
- Y Cyngh. Tim Evans
- Y Cyngh. Anji Tinley
- Y Cyngh. David Bryan
- Y Cyngh. Tom Tudor
- Y Cyngh. John Cole
- Y Cyngh. Andrew Edwards
Cyfarwyddwyr Addysg Esgobaethol:
- Tyddewi
- Mynyw
Eraill
- Cyngor Tref Hwlffordd
- Cyngor Cymuned Pont Fadlen
- NEU
- NASUWT
- UCAC
- ATL
- NAHT
- ASCLE
- UNISON
- UNITE
- GMB
- Bwrdd Iechyd Hywel Dda
- SNAP Cymru
- Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth
- Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed Powys
- Gweinidogion Cymru
- Estyn
- Comisiynydd y Gymraeg
- Partneriaeth Addysg De Orllewin Cymru – Consortiwm Addysg Rhanbarthol
- Coleg Sir Benfro
- Cyngor Sir Gâr
- Cyngor Sir Ceredigion
Hefyd, bydd yr adroddiad hwn yn cael ei ddosbarthu i’r holl ymgyngoreion sydd wedi gofyn yn benodol am gael eu hysbysu ei fod ar gael.
Trefniadau Ymgynghori
Trefniadau Cyffredinol
Cyhoeddwyd y Ddogfen Ymgynghori ar 15 Mawrth 2022 a’r dyddiad hwn hefyd oedd dechrau’r cyfnod ymgynghori statudol. Daeth y cyfnod ymgynghori i ben ar 29 Ebrill 2022.
Dosbarthwyd y Ddogfen Ymgynghori / dolenni iddi i’r holl ymgyngoreion statudol a restrir ar Dudalen 5 yn y ddogfen honno.
Trefnwyd fod y Ddogfen Ymgynghori ar gael ar wefan y Cyngor Sir yn Dweud eich Dweud
Gohebiaeth Ymgynghori
Nifer a Phroffil yr Ymatebion a Gafwyd
Cafwyd cyfanswm o 15 o ymatebion trwy’r ddolen we ar-lein, ffurflenni ymateb cyffredinol ac 'addas i ddisgyblion', negeseuon e-bost a llythyrau. Mae’r dadansoddiad fel a ganlyn:
Rhoddir proffil yr ymatebwyr isod ac mae’n adlewyrchu’r holl ddisgrifiadau a roddwyd. Mae’r proffil hwn yn dynodi rôl ymatebwyr fel rhan o’r ymgynghoriad a gall ddynodi rolau lluosog, e.e. rhiant, staff a thrigolyn lleol; o ganlyniad nid yw’r cyfanswm yn cyfateb i nifer yr ymatebion a gafwyd.
Proffil |
Nifer |
---|---|
Rhiant cyn-ysgol | 0 |
Rhieni | 9 |
Staff | 2 |
Llywodraethwyr | 2 |
Trigolion | 4 |
Ysgol Portfield | 3 |
Ymatebion i’r Ymgynghoriad
Consensws Cyffredinol
Lle dewisodd yr ymatebwyr ddefnyddio’r ffurflen ar-lein neu’r copi caled ohoni a ddarparwyd, gofynnwyd iddynt ymateb i un cwestiwn er mwyn cadarnhau pa un o’r datganiadau canlynol oedd yn adlewyrchu eu barn orau. Mae’r canfyddiadau fel a ganlyn:
Nodwch ba un o’r canlynol sy’n adlewyrchu eich barn ynglŷn â’r cynnig:
Gwneud newid a reoleiddir i Ysgol Portfield er mwyn cynyddu nifer y disgyblion y mae’r ysgol yn darparu ar eu cyfer
Datganiad |
Nifer |
% |
---|---|---|
Nid wyf yn teimlo’n gryf y naill ffordd na’r llall | 0 | 0 |
Rwy’n cefnogi’r cynnig | 14 | 93 |
Nid wyf yn cefnogi’r cynnig | 1 | 7 |
Cyfanswm | 15 | 100 |
Sylwadau a wnaed yn ystod yr ymgynghoriad
Mae rhestr o’r holl sylwadau a gafwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori wedi’i hatodi fel atodiadau; Atodiad A1 ar gyfer sylwadau cyffredinol, Atodiad A2 ar gyfer sylwadau Estyn. Mewn perthynas â’r ail o’r rhain, mae casgliad cyffredinol Estyn ynglŷn â’r cynnig fel a ganlyn:
“Mae’r cynnig yn un gan Gyngor Sir Penfro i wneud newid a reoleiddir i Ysgol Portfield i gynyddu nifer y disgyblion y mae’r ysgol yn darparu ar eu cyfer"
"Mae Estyn o’r farn ei bod yn debygol y bydd y cynnig o leiaf yn cynnal safon y ddarpariaeth addysgol a’r deilliannau ar gyfer disgyblion”
Ymateb i’r sylwadau a wnaed
Mae’r Cod Trefniadaeth Ysgolion yn ei gwneud yn ofynnol bod yr Adroddiad Ymgynghori’n darparu crynodeb o bob un o’r materion a godwyd gan ymgyngoreion ac yr ymatebir i’r rhain trwy eglurhad, diwygio’r cynnig neu wrthod y pryderon. Mae’r tabl canlynol yn nodi ymateb y Cyngor i’r amryw sylwadau a wnaed.
Sylwadau
Estyn
Wrth ystyried effaith y cynnig ar drefniadau teithio, mae’r Cyngor yn cyfeirio at ei bolisi cludiant i ysgolion mewn perthynas â dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol ac anableddau. Mae’n dod i gasgliad rhesymol na fydd y cynnig yn effeithio ar ddarparu cludiant, heblaw am dderbyn dysgwyr ychwanegol. Nid yw’r cynnig yn mynd i’r afael â’r amser teithio ychwanegol a all fod gan ddisgyblion y tu allan i ddalgylch arferol yr ysgol
Ymateb
Fel a nodwyd yn y Ddogfen Ymgynghori, Ysgol Portfield yw unig Ysgol Arbennig ddynodedig y sir. Nid cynnig i adleoli’r ddarpariaeth bresennol yw’r cynnig hwn, ond un i ehangu’r ddarpariaeth ac ailddatblygu safle Ysgol Portfield. Fel yr unig Ysgol Arbennig yn Sir Benfro, mae ei ‘dalgylch’ yn cwmpasu Sir Benfro gyfan ac ni fydd y cynnig yn arwain at amser teithio ychwanegol, y tu hwnt i’r hyn y gellir ei ddisgwyl ar hyn o bryd.
Sylwadau
Estyn
Mae’r Cyngor yn cyfeirio at nifer uchel y gweithwyr proffesiynol arbenigol y mae eu hangen i weithio mewn darpariaeth arbennig. Fodd bynnag, ni ddarperir unrhyw fanylion am recriwtio’r staff ychwanegol y mae eu hangen o ganlyniad i gynyddu’r capasiti. Byddai’r cynnig yn cael ei gryfhau ymhellach gan ragor o wybodaeth am y staff arbenigol a fyddai’n cael eu cyflwyno i’r ysgol ar ôl cynyddu ei chapasiti.
Ymateb
Ar y cyfan mae meintiau dosbarthiadau mewn ysgolion arbennig yn amrywio o 8-15 o ddysgwyr mewn dosbarth, gan ddibynnu ar y math o angen a chymhlethdod yr angen. Mae Cylchlythyr Swyddfa Cymru 58/90 yn argymell y Bandiau a chymarebau staffio canlynol.
ADDaLl (Athro/Athrawes 1:5) (CCD 1:3)
Cyfathrebu (1:6) (1:10)
AYEaCh (1:7) (1:7)
ADD (1:8) (1:8)
ADC (1:10) (1:10)
Mae dosbarthiadau fel arfer yn cael eu cefnogi gan un athro cymwysedig/athrawes gymwysedig a 2-3 o gynorthwywyr dosbarth, er y gall y nifer hwn gynyddu gan bod ar rai plant angen cymorth yn ôl cymhareb o 2:1.
Mae athrawon mewn ysgolion arbennig ar y cyfan yn cael tâl UP3 a lwfans AAA ychwanegol.
Mae cynyddu’r ddarpariaeth bresennol trwy ychwanegu pedwar dosbarth yn debygol o olygu oddeutu 10 aelod o staff ychwanegol nad ydynt yn addysgu a phedwar o athrawon llawn-amser ychwanegol. Bydd y capasiti ychwanegol yn cael effaith ar wasanaethau iechyd atodol ac arbenigol hefyd, megis ffisiotherapi, therapyddion galwedigaethol a therapyddion iaith a lleferydd.
Sylwadau
Estyn
Mae’r Cyngor wedi rhoi ystyriaeth resymol i effaith debygol adeiladu ar safle addysg ‘byw’ ac wedi nodi y bydd hyn yn cael ei reoli yn unol ag egwyddorion sefydledig ar gyfer rheoli prosiectau. Fodd bynnag, nid oes ystyriaeth i effaith y broses adeiladu ar ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol a all fod yn sensitif i sŵn, arogleuon neu newid. Mae’r Cyngor wedi nodi y bydd pobl ifanc yn gallu cyfranogi yn yr ymgynghoriad hwn ac o ganlyniad gallai hyn fod yn gyfle i baratoi’r dysgwyr ar gyfer unrhyw newidiadau a allai ddigwydd
Ymateb
Cydnabyddir bod ailddatblygu Ysgol Portfield yn cyflwyno heriau ychwanegol at y rhai y gellid eu disgwyl mewn ysgolion prif ffrwd eraill. Bydd Pennaeth / UDA yr ysgol yn aelodau gwerthfawr o Dîm y Prosiect a byddant yn rhan o bob agwedd ar y prosiect. Disgwylir y bydd y Pennaeth yn cynnwys dysgwyr yn y broses hon mewn modd priodol a bydd yn ofynnol i ymgynghorwyr a chontractwyr ymateb i unrhyw bryderon a godir.
Sylwadau
Cyffredinol
Pa un a all Portfield ddefnyddio safle Ysgol Uwchradd Wirfoddol a Reolir Hwlffordd unwaith y bydd wedi’i adael yn wag
Ymateb
Bydd y cynnig yn manteisio ar agosrwydd Ysgol Portfield at adeiladau eraill ar y safle. Bydd bloc ‘H’ a ddefnyddir ar hyn o bryd gan Ysgol Uwchradd Wirfoddol a Reolir Hwlffordd yn dod yn un o adeiladau Ysgol Portfield. Yn yr un modd, cynigir codi estyniad ar adeilad presennol Tŷ Holly er mwyn darparu capasiti preswyl y mae ei ddirfawr angen ar gyfer disgyblion Portfield
Sylwadau
Cyffredinol
Mwy o unedau Canolfannau Adnoddau Dysgu sy’n addas ar gyfer y diben yn ysgolion Hwlffordd neu adeiladu ysgol AAA uwchradd newydd sy’n addas ar gyfer y diben yn Hwlffordd
Ymateb
Dan y Cod ADY, ceir dyletswydd gyffredinol i ffafrio darpariaeth brif ffrwd. Mae dosbarthiadau mewn Canolfannau Adnoddau Dysgu’n darparu’r cyfle hwn i ddysgwyr ag ADY dynodedig gael eu haddysgu mewn ysgol brif ffrwd. Mae’r Cyngor wedi ehangu ei ddarpariaeth Canolfannau Adnoddau Dysgu uwchradd yn ddiweddar trwy agor dosbarth newydd yn Ysgol Greenhill, Dinbych-y-pysgod. Mae gennym bellach 3 safle i ddarparu’r gwasgariad daearyddol i ddiwallu anghenion dysgwyr ledled y Sir.
Nid yw Ysgol Uwchradd AAA ar wahân yn opsiwn a ffefrir. Nid yw safleoedd rhanedig wastad yn gweithio’n dda i ddysgwyr na staff. Mae’n cynyddu costau rheoli ac yn darparu prosesau pontio diangen ar gyfer dysgwyr sydd eisoes yn ei chael yn anodd addasu i newid.
Sylwadau
Cyffredinol
Er bod dirfawr angen hyn, mae angen i’r ddarpariaeth gan yr ysgol gael ei hestyn ar gyfer yr holl anghenion holistaidd y darperir ar eu cyfer hefyd. H.y. mae angen estyniad ar Dŷ Holly i ddarparu rhagor o leoedd.
Mae angen mwy o ran creu amgylchedd o amgylch yr ysgol, bron i greu cymuned fach. H.y. siopau ymarfer, llety byw gartref i ymarfer, ardaloedd synhwyraidd penodol, rhagor o achubwyr bywydau, rhagor o weithwyr cymorth holistaidd fel therapïau cerddoriaeth a dawns.
Mae mwy o niferoedd yn wych, ond mae angen i’r adnoddau o amgylch y plant dyfu hefyd.
Ymateb
Mae Tŷ Holly wedi’i gynnwys yng nghynnig y Cyngor.
Mae safle Portfield eisoes yn gartref i Ganolfan Ddydd Addysg Oedolion a’r Diwydiannau Norman, sy’n darparu hyfforddiant a chyfleoedd gwaith ar gyfer pobl anabl a’r rhai ag anawsterau dysgu. Mae gan y gwasanaeth gofal cymdeithasol gyfleuster seibiant ar y safle sy’n galluogi dysgwyr i gael egwylion byr ac, mewn rhai achosion, llety mewn argyfwng.
Mae angen atal ymylon dibyn diangen ar gyfer pobl ifanc, i gefnogi prosesau pontio o addysg i hyfforddiant a gwaith ac o lety â chymorth tuag at annibyniaeth.
Mae angen i’r cwricwlwm newydd ar gyfer ysgolion arbennig fod yn amrywiol a chydnabod yr heriau unigryw i ddarparu’r elfennau sgiliau bywyd ac anacademaidd o’r cwricwlwm i ddatblygu unigolion hyderus a fydd wedi’u harfogi â’r sgiliau a’r cymwyseddau i alluogi disgyblion i gyfrannu’n economaidd yn eu cymuned. Bydd llawer o ysgolion Arbennig newydd yn cynnig y ddarpariaeth eang hon, gan addysgu sgiliau bywyd i ddisgyblion er mwyn iddynt allu coginio a gofalu amdanynt hwy eu hunain yn annibynnol a darparu cyfleoedd i ddysgu sgiliau fel trin arian a dod o hyd i gyflogaeth â chymorth a chyfleoedd hyfforddi.
Mae ar ddysgwyr mwy cymhleth angen amgylcheddau wedi’u haddasu ac ardaloedd arbenigol fel therapi gwrthlamu, ystafelloedd synhwyraidd, therapi dŵr ac adran sgiliau bywyd hefyd.
Atodiad 1
Ysgol Portfield:
Newid a Reoleiddir i gynyddu nifer y disgyblion y mae’r ysgol yn darparu ar eu cyfer
Cyf 2:
XXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXX
(sylwadau wedi’u tynnu allan at ddibenion y ddogfen hon – nid oes ar yr ymatebydd eisiau i’w sylwadau fod ar gael yn gyhoeddus)
Cyf 3:
C3: Darparwch unrhyw sylwadau eraill ar y cynnig os gwelwch yn dda.
Mae gwir angen hyn ar gyfer cymaint o blant.
Cyf 4:
C2: Darparwch unrhyw gynigion amgen sydd gennych yn lle’r cynnig hwn os gwelwch yn dda.
Tybed, gydag Ysgol Uwchradd Wirfoddol a Reolir Hwlffordd yn symud, a allai Portfield ddefnyddio’r safle yr oedd Ysgol Uwchradd Wirfoddol a Reolir Hwlffordd arni?!
C3: Darparwch unrhyw sylwadau eraill am y cynnig os gwelwch yn dda.
Mae angen moderneiddio’r ysgol isaf heb os nac oni bai
Cyf 6:
C2 Darparwch unrhyw gynigion amgen sydd gennych yn lle’r cynnig hwn os gwelwch yn dda.
Mwy o unedau Canolfannau Adnoddau Dysgu uwchradd sy’n addas ar gyfer y diben yn ysgolion Hwlffordd neu adeiladu ysgol AAA uwchradd newydd sy’n addas ar gyfer y diben yn Hwlffordd
Cyf 8:
C3: Darparwch unrhyw sylwadau eraill am y cynnig os gwelwch yn dda.
Er bod dirfawr angen hyn, mae angen i’r ddarpariaeth gan yr ysgol gael ei hestyn ar gyfer yr holl anghenion holistaidd y darperir ar eu cyfer hefyd. H.y. mae angen estyniad ar Dŷ Holly i ddarparu rhagor o leoedd.
Mae angen mwy o ran creu amgylchedd o amgylch yr ysgol, bron i greu cymuned fach. H.y. siopau ymarfer, llety byw gartref i ymarfer, ardaloedd synhwyraidd penodol, rhagor o achubwyr bywydau, rhagor o weithwyr cymorth holistaidd fel therapïau cerddoriaeth a dawns.
Mae mwy o niferoedd yn wych, ond mae angen i’r adnoddau o amgylch y plant dyfu hefyd.
Cyf 9:
C3: Darparwch unrhyw sylwadau eraill am y cynnig os gwelwch yn dda.
Mae angen hyn yn bendant
Cyf 13:
C2 Darparwch unrhyw gynigion amgen sydd gennych yn lle’r cynnig hwn os gwelwch yn dda.
Na – mae angen gwelliant
C3: Darparwch unrhyw sylwadau eraill am y cynnig os gwelwch yn dda.
Gobeithio na fydd gwella’r ysgol yn cael ei beryglu am bod cyfyngiadau’n cael eu gosod ar y safle yn Ysgol Uwchradd Hwlffordd. Mae lle o’r pwys mwyaf i anghenion disgyblion Portfield.
Cyf 14:
C2 Darparwch unrhyw gynigion amgen sydd gennych yn lle’r cynnig hwn os gwelwch yn dda.
Dim cynnig amgen; rwy’n hapus gyda’r cynnig.
C3: Darparwch unrhyw sylwadau eraill am y cynnig os gwelwch yn dda.
Mae Coleg Sir Benfro’n croesawu’r cyfle i barhau i gydweithio’n agos gydag Ysgol Portfield.
C4: Dywedwch wrthym beth yw eich diddordeb yn yr ymgynghoriad os gwelwch yn dda? (Ticiwch bob un sy’n berthnasol) (Arall (rhowch fanylion))
Mae’r Coleg yn un o bartneriaid pontio Portfield ac mae eisoes yn gweithio’n strategol gyda’r ysgol a’r Awdurdod Lleol
Atodiad 2
Ymateb Estyn i’r newid a reoleiddir i Ysgol Portfield
Cyflwyniad
Paratowyd yr adroddiad hwn gan Arolygwyr Ei Mawrhydi ar gyfer Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru.
Dan delerau Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a’i Chod cysylltiedig, mae’n ofynnol i gynigwyr anfon dogfennau ymgynghori at Estyn. Fodd bynnag, nid yw Estyn yn gorff y mae’n ofynnol iddo weithredu’n unol â’r Cod ac nid yw’r Ddeddf yn gosod unrhyw ofynion statudol ar Estyn mewn perthynas â materion trefniadaeth ysgolion. Felly fel corff yr ymgynghorir ag ef, dim ond ynglŷn â rhinweddau cyffredinol cynigion trefniadaeth ysgolion y bydd Estyn yn darparu ei farn.
Mae Estyn wedi ystyried yr agweddau addysgol ar y cynnig ac wedi llunio’r ymateb canlynol i’r wybodaeth a ddarparwyd gan y cynigydd.
Crynodeb/ Casgliad
Mae’r cynnig yn un gan Gyngor Sir Penfro i wneud newid a reoleiddir i Ysgol Portfield i gynyddu nifer y disgyblion y mae’r ysgol yn darparu ar eu cyfer.
Mae Estyn o’r farn ei bod yn debygol y bydd y cynnig o leiaf yn cynnal safon y ddarpariaeth addysgol a’r deilliannau ar gyfer disgyblion.
Disgrifiad a manteision
Mae’r Cyngor wedi cyflwyno rhesymeg glir dros y cynnig i wneud gwelliannau i safle ac adeiladau’r ysgol. Mae’n cyflwyno’r wybodaeth gefndir am y cynnig yn dda, gan gynnwys niferoedd y disgyblion, rhagolygon, capasiti ac adeiladau’r ysgol. Gan ddefnyddio’r wybodaeth hon, mae’r Cyngor yn dangos yn briodol yr angen i gynyddu nifer y disgyblion y mae’r ysgol yn darparu ar eu cyfer.
Mae’r Cyngor, yn ddefnyddiol, wedi darparu disgrifiad manwl o’r cynnig. Mae hyn yn cynnwys codi estyniad ar adeilad presennol yr ysgol uchaf i dderbyn disgyblion yn yr ysgol isaf, defnyddio adeilad cyfagos ar y safle ac ychwanegu at adeilad cyfagos i ddarparu lleoedd gofal preswyl ychwanegol a llawn-amser ar gyfer dysgwyr Ysgol Portfield. Hefyd, mae wedi darparu’r llinell amser ar gyfer y broses statudol y mae’n disgwyl ei dilyn mewn perthynas â’r cynnig hwn.
Mae’r Cyngor wedi nodi’n glir beth yw cryfderau a gwendidau’r sefyllfa bresennol ac wedi rhoi ystyriaeth briodol i’r manteision ac un anfantais sy’n gysylltiedig â’r newid a reoleiddir y mae’n ei gynnig. Mae’r manteision yn ymwneud â chynyddu capasiti’r ysgol, gwella adeiladau sydd mewn cyflwr gwael, a chynyddu i’r eithaf y defnydd o adeiladau cyfagos presennol. Mae’r un anfantais a nodwyd yn ymwneud â tharfu ar ddisgyblion a staff yn ystod y cyfnod adeiladu. Fodd bynnag, mae’r Cyngor yn haeru bod ei dimau prosiectau yn hen gyfarwydd â chyflawni’r prosiectau hyn ac y bydd y sefyllfa o ran tarfu ar ddisgyblion a staff yn cael ei rheoli’n unol ag egwyddorion sefydledig ar gyfer cynllunio prosiectau a thrwy ymgysylltu a chydweithredu’n llwyr gyda’r Pennaeth. Ymddengys fod hwn yn haeriad rhesymol.
Mae’r Cyngor wedi rhoi ystyriaeth addas i bedair prif risg sy’n gysylltiedig â’r cynnig. Mae’r rhain yn cynnwys methu â chael cymeradwyaethau amserol i gyhoeddi hysbysiadau statudol perthnasol a’r effaith ar y cynnig os bydd oedi wrth wneud penderfyniadau sy’n gysylltiedig â’r cynnig hwn. Mae’r Cyngor wedi nodi gwrthfesurau addas a allai helpu i liniaru’r risgiau hyn.
Fel rhan o’r broses ymgynghori hon, mae’r Cyngor wedi ystyried ystod o opsiynau amgen. Mae’r rhain yn cynnwys yr opsiwn i wneud dim byd neu godi adeilad newydd yn lle adeilad yr ysgol isaf. Mae’r Cyngor wedi diystyru’r opsiynau amgen ac wedi darparu rhesymau sydd i’w gweld yn briodol dros wneud hynny.
Wrth ystyried effaith y cynnig ar drefniadau teithio, mae’r Cyngor yn cyfeirio at ei bolisi cludiant i ysgolion mewn perthynas â dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol ac anableddau. Mae’n dod i gasgliad rhesymol na fydd y cynnig yn effeithio ar ddarparu cludiant, heblaw am dderbyn dysgwyr ychwanegol. Nid yw’r cynnig yn mynd i’r afael â’r amser teithio ychwanegol a all fod gan ddisgyblion y tu allan i ddalgylch arferol yr ysgol.
Mae’r Cyngor yn cyflwyno dadl resymol ei bod yn anodd rhagfynegi’r galw am addysg arbennig oherwydd amrywiaeth a chymhlethdod yr anghenion unigol sydd gan bob dysgwr. Fodd bynnag, mae wedi pennu capasiti enwol ar gyfer Ysgol Portfield, sef 155 o ddisgyblion a rhagfynegir y bydd galw am ddarpariaeth arbenigol ar gyfer 170 yn yr ysgol hon ym mis Medi 2022. Mae’r nifer hwn yn debygol o gynyddu mewn blynyddoedd yn y dyfodol.
Fel rhan o’r cynnig, mae’r Cyngor wedi darparu asesiad perthnasol o’r effaith ar y Gymraeg. Mae’n dod i’r casgliad nad yw’r cynnig yn cael unrhyw effaith ar y Gymraeg gan nad oes cynnig i newid y ddarpariaeth, dim ond gwella ac estyn yr amgylchedd dysgu. Rhoddir darpariaeth cyfrwng Cymraeg o ddarpariaeth ategol (Y Porth) yn Ysgol y Preseli. Hefyd, mae’r asesiad o’r effaith ar y Gymraeg yn nodi bod y cynnig yn cyd-fynd â deilliant 6 yn y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg 2022-2031.
Mae’r Cyngor wedi nodi’n addas mai £20.3m fydd costau ariannol y cynnig. Ceisir buddsoddiad cyfalaf o fand B Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif y Cyngor a fydd yn talu 75% o’r gost. Bydd y 25% sy’n weddill yn cael ei ariannu gan y Cyngor ei hun. Mae’r Cyngor yn awgrymu ei bod yn annhebygol y bydd unrhyw arbedion refeniw sylweddol yn codi o’r cynnig hwn.
Agweddau addysgol ar y cynnig
Mae’r ysgol wedi rhoi ystyriaeth addas i effaith y cynnig ar ansawdd a safonau mewn addysg. Mae wedi gwneud hyn trwy ystyried datganiadau yn yr adroddiad arolygu diweddaraf gan Estyn ac ychwanegu sylw ynghylch pa effaith y bydd y cynnig yn ei chael ar bob un o’r meysydd arolygu
Mae’r Cyngor wedi darparu manylion ar gyfer pob ysgol y mae’n debygol y bydd y cynnig yn effeithio arni gan gynnwys eu hadroddiadau arolygu diweddaraf gan Estyn. Mae’n dod i’r casgliad, er ei bod yn debygol y bydd y cynnig yn effeithio’n gadarnhaol ar yr holl ysgolion yn Sir Benfro, mai ysgolion â Chanolfannau Adnoddau Dysgu yr effeithir arnynt fwyaf o ystyried y perthnasoedd gweithio agos rhwng y rhain ac Ysgol Portfield. Ymddengys fod hyn yn ddilys ac yn rhesymol.
Mae’r Cyngor yn cyfeirio at nifer uchel y gweithwyr proffesiynol arbenigol y mae eu hangen i weithio mewn darpariaeth arbennig. Fodd bynnag, ni ddarperir unrhyw fanylion am recriwtio’r staff ychwanegol y mae eu hangen o ganlyniad i gynyddu’r capasiti. Byddai’r cynnig yn cael ei gryfhau ymhellach gan ragor o wybodaeth am y staff arbenigol a fyddai’n cael eu cyflwyno i’r ysgol ar ôl cynyddu ei chapasiti.
Mae’r Cyngor wedi rhoi ystyriaeth resymol i effaith debygol adeiladu ar safle addysg ‘byw’ ac wedi nodi y bydd hyn yn cael ei reoli yn unol ag egwyddorion sefydledig ar gyfer rheoli prosiectau. Fodd bynnag, nid oes ystyriaeth i effaith y broses adeiladu ar ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol a all fod yn sensitif i sŵn, arogleuon neu newid. Mae’r Cyngor wedi nodi y bydd pobl ifanc yn gallu cyfranogi yn yr ymgynghoriad hwn ac o ganlyniad gallai hyn fod yn gyfle i baratoi’r dysgwyr ar gyfer unrhyw newidiadau a allai ddigwydd.
Mae’r Cyngor wedi rhoi ystyriaeth addas i effaith debygol y cynigion ar allu’r ysgol i ddarparu’r cwricwlwm llawn. Mae’n haeru y bydd ailddatblygu’r ysgol isaf yn sicrhau bod yr amgylchedd dysgu’n rhoi cymorth i ddarparu’r cwricwlwm ac y bydd yn fwy hygyrch i’r holl ddysgwyr.
Mae’r Cyngor wedi darparu asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb sy’n dod i’r casgliad bod y cynnig yn annhebygol o arwain at unrhyw effaith negyddol ar y nodweddion gwarchodedig a nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010. Mae’r ysgol yn darparu addysg ar gyfer disgyblion â datganiadau o anghenion addysgol arbennig ac mae’r Cyngor yn rhesymol yn haeru y bydd y buddsoddiad cyfalaf arfaethedig yn arwain at welliant sylweddol mewn amgylcheddau dysgu gwael ar gyfer y disgyblion mwyaf agored i niwed yn y system addysg yn Sir Benfro.