Ysgolion yr 21ain Ganrif
Rhaglen Gyfalaf i Sicrhau Addysg ac Ysgolion yr 21ain Ganrif
Mae Rhaglen Gyfalaf i Sicrhau Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif yn waith unigryw ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol i ddarparu:
- amgylcheddau dysgu fel y bydd yn haws gweithredu strategaethau gwella, gan gynnwys gwella deilliannau addysgol;
- mwy o ddarbodusrwydd ac effeithlonrwydd ar gyfer amgylcheddau dysgu yn sgil defnyddio adnoddau’n ddoeth;
- system addysg yng Nghymru sy’n bodloni safonau adeiladu cenedlaethol, gan leihau costau rheolaidd ac ôl troed carbon adeiladau addysg.
Yn Sir Benfro rydym wedi ymrwymo i raglen werth £122 miliwn ar gyfer Band A sy’n para o Ebrill 2014 tan fis Mawrth 2019. Cynrychiolir Band B yr ail ran o fuddsoddiad rhwng Ebrill 2019 a Mawrth 2024; cyfanswm y cyllid a gymeradwywyd yw £106.4 miliwn.
I gael rhagor o wybodaeth am y prosiectau sy’n rhan o Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Sir Benfro, cliciwch ar unrhyw un o’r dolenni uchod.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Margaret Treiber Johnson, Swyddog Prosiect - Ysgolion yr 21ain Ganrif, drwy ffonio 01437 764551 neu drwy e-bostio
Margaret.Treiber-Johnson@pembrokeshire.gov.uk