Ysgolion yr 21ain Ganrif
Ysgol Bro Gwaun - Abergwaun
Band - A
Roedd y prosiect yn cynnwys creu bloc dysgu newydd, Canolfan Adnoddau Dysgu ar gyfer disgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol a chyfleusterau dysgu cymunedol. Roedd hyn yn dilyn ailbennu’r ysgol yn un 11-16.
Mae’r ail gam yn cynnwys dymchwel rhan fwyaf o’r safleoedd dysgu presennol a chreu pedwar Man Chwarae Amlddefnydd, a’r cam olaf fydd gwaith ar yr adeilad sy’n cael ei gadw h.y. y neuadd bresennol, y gampfa a’r ffreutur.
Cwblhawyd elfen newydd yr adeilad a dechreuodd y staff a’r disgyblion ei ddefnyddio ddiwedd mis Tachwedd 2017.
Agorwyd yr ysgol yn swyddogol gan Kirsty Williams AC (Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg) ddydd Iau 3 Mai 2018.
Am fwy o wybodaeth ar y prosiect: Gwybodaeth Ysgol Bro Gwaun
Datganiadau’r Wasg / Newyddion Diweddaraf | Galeri |
---|---|
|
ID: 3061, adolygwyd 19/10/2021