Ysgolion yr 21ain Ganrif
Ysgol Wirfoddol a Reolir yr Eglwys yng Nghymru Gelliswick
Band - A
Mae Ysgol Wirfoddol a Reolir yr Eglwys yng Nghymru Gelliswick yn ysgol gynradd 3-11 oed newydd a sefydlwyd ar 1 Medi 2017 yn sgil cau Ysgol Feithrin a Chynradd Wirfoddol a Reolir yr Eglwys yng Nghymru Hubberston ac Ysgol Gymunedol Hakin.
Mae’r adeilad newydd wedi’i gynllunio i gynnig addysg o’r ansawdd gorau i holl blant yn ardaloedd Hakin a Hubberston ac mae hefyd yn cynnwys cyfleusterau cymunedol. Dechreuodd y gwaith adeiladu ddechrau 2016 ac roedd yr adeilad yn barod i’w ddefnyddio ym mis Ionawr 2018.
Agorwyd yr ysgol yn swyddogol gan Kirsty Williams AC (Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg) ddydd Gwener 9 Mawrth 2018.
Am fwy o wybodaeth ar y prosiect: Gwybodaeth Ysgol Gelliswick
Datganiadau’r Wasg / Newyddion Diweddaraf | Galeri |
---|---|
ID: 3038, adolygwyd 19/10/2021