Ysgolion yr 21ain Ganrif
Ysgolion Cynradd Dinbych-y-pysgod - Ysgol Hafan y Môr & Ysgol Gynradd WR yr Eglwys yng Nghymru Dinbych-y-pysgod
Band - A
Trawsnewidiwyd y prosiect hwn Ysgol Babanod WR Dinbych-y-pysgod ac Ysgol Gymunedol Iau Dinbych-y-pysgod dwy ffrwd cynt yn ddwy ysgol gynradd 3-11 oed ar wahân.
Roedd y prosiect yn cynnwys adeiladu ysgol newydd ar gyfer Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir yr Eglwys yng Nghymru Dinbych-y-pysgod (cyfrwng Saesneg) a gwaith adnewyddu mawr yn hen adeilad Ysgol Iau Dinbych-y-pysgod ar gyfer Ysgol Hafan y Môr (cyfrwng Cymraeg).
Cwblhawyd y ddau brosiect hyn yn ystod Haf 2016 a sefydlwyd y ddwy ysgol o 1 Medi 2016.
Agorwyd Ysgol Wirfoddol a Reolir yr Eglwys yng Nghymru Dinbych-y-pysgod yn swyddogol gan Kirsty Williams AC (Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg) ddydd Mawrth 1 Rhagfyr 2016.
Agorwyd Ysgol Hafan y Môr yn swyddogol gan Alun Davies AC (Gweinidog Dysgu Gydol Oes a’r Gymraeg) ddydd Llun 13 Chwefror 2017.
Am fwy o wybodaeth ar y prosiect: Gwybodaeth Ysgolion Cynradd Dinbych-Y-Pysgod
Datganiadau’r Wasg / Newyddion Diweddaraf | Galeri |
---|---|
|