Ysgolion yr 21ain Ganrif
Ysgol Gynradd Gymunedol Johnston
Band - A
Ysgol Gynradd Gymunedol Johnston oedd y drydedd ysgol newydd a adeiladwyd fel rhan o’r rhaglen, a hynny yn lle’r adeilad blaenorol a oedd mewn cyflwr gwael.
Mae’n ysgol gynradd 3-11 oed â lle i 210 o ddisgyblion llawn amser yn ogystal ag Uned Blynyddoedd Cynnar a Chanolfan Adnoddau Dysgu ar gyfer hyd at 20 o blant ag anghenion ychwanegol neu gymhleth.
Dechreuodd y gwaith adeiladu yn 2015 ac roedd yr adeilad yn barod i’w ddefnyddio ym mis Ionawr 2017.
Agorwyd yr ysgol yn swyddogol gan Kirsty Williams AC (Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg) ddydd Gwener 3 Chwefror 2017.
Am fwy o wybodaeth ar y prosiect: Gwybodaeth Ysgol Johnston
Datganiadau’r Wasg / Newyddion Diweddaraf | Galeri |
---|---|
|
ID: 3057, adolygwyd 19/10/2021