Ysgolion yr 21ain Ganrif
Ysgol Uwchradd Wirfoddol a Reolir Hwlffordd
Broliant newydd ar gyfer gwefan y Rhaglen Ysgolion a Cholegau ar gyfer yr 21ain Ganrif:
Sefydlwyd Ysgol Uwchradd a Reolir Hwlffordd o 1 Medi 2018 fel ysgol cyfrwng Saesneg 11-19 ar ôl cau Ysgol Wirfoddol a Reolir Tasker Milward ac Ysgol Syr Thomas Picton.
Ar 26 Gorffennaf 2018, cymeradwyodd Cyngor Sir Penfro argymhelliad y grŵp gorchwyl a gorffen y dylai'r achos busnes dros gyllid y Rhaglen Ysgolion a Cholegau ar gyfer yr 21ain Ganrif enwi hen safle Ysgol Syr Thomas Picton fel y safle a ffefrir ar gyfer adeilad ysgol newydd.
Yn dilyn gwaith helaeth yn ystod 2019 i osod llety dros dro ychwanegol a symud yr holl ddarpariaeth o safle Prendergast (hen safle Ysgol Syr Thomas Picton), mae'r ysgol yn gweithredu’n gyfan gwbl o safle Portfield (hen safle Ysgol Tasker Milward).
Cymeradwywyd yr achosion busnes dilynol ar gyfer adeilad busnes newydd gan Lywodraeth Cymru, a dechreuwyd y gwaith o adeiladu'r ysgol newydd, gwerth £48.7 miliwn, ym mis Tachwedd 2020, a disgwylir i’r gwaith gael ei gwblhau yn ystod haf 2022.
Bydd yr adeilad newydd yn derbyn 1,500 o ddisgyblion rhwng 11 ac 16 oed, yn ogystal â 250 o ddisgyblion yn y chweched dosbarth, ac fe fydd yn adeilad dau lawr gydag atriwm canolog sy'n gweithredu fel ardal i gyfarfod, bwyta a chymdeithasu. Mae cyfleusterau chwaraeon newydd yn cynnwys neuadd chwaraeon wyth cwrt, cae rygbi 3G wedi'i lifoleuo sy’n bodloni safonau Undeb Rygbi Cymru, a dwy ardal chwaraeon amlddefnydd. Bydd pob un ar gael i ddefnydd cymunedol y tu allan i oriau ysgol.
Bydd y trac athletau, cae pob tywydd, cyrtiau tennis a chaeau glaswellt presennol yn cael eu cadw.
Bydd y rhan fwyaf o draffig, gan gynnwys bysiau ysgol, yn mynd i'r safle drwy ffordd fynediad newydd oddi ar yr A40, a fydd yn arwain yn uniongyrchol at barth parcio coetsys / gollwng newydd a meysydd parcio newydd i staff ac ymwelwyr.
Ysgol Uwchradd Hwlffordd - Galeri Ffram Ddur Ebrill 2021
Ysgol Uwchradd Hwlffordd – Galeri Ffram Ddur Chwefror 2021
Datganiadau’r Wasg / Newyddion Diweddaraf | Galeri |
---|---|
Prifathrawes newydd Hwlffordd yn dechrau ym mis Chwefro Y Cyheodd Yn Cyfarfod  Thim Cynllunio Ysgol Newydd Seremoni Torri Tywarchen Tachwedd 20
|
Chwefror 2018 |
Mawrth 2018 |
Ebrill 2018 |
Mai 2018 |
Mehefin 2018 |