Ystafell Newyddion

A oes angen Blychau Ailgylchu Gwastraff Bwyd a Gwydr Newydd Arnoch Chi?

Os ydych yn byw yn Sir Benfro ac mae angen blwch gwastraff bwyd (mawr a/neu fach) neu flwch ailgylchu gwydr newydd arnoch, gallwch eu casglu nhw am ddim o nifer o fannau yn lleol.

Rhestrir y mannau casglu fan hyn: https://www.sir-benfro.gov.uk/casglu-gwastraf/casglu-gwastraff

Blwch bwyd gwastraff blwch bwyd bach

Maen nhw ar gael yn y lleoliadau canlynol (amseroedd agor amrywiol):

Canolfannau hamdden: Crymych, Abergwaun, Hwlffordd, Aberdaugleddau, Penfro, Dinbych-y-pysgod a Thyddewi.

Llyfrgelloedd: Aberdaugleddau, Neyland, Saundersfoot, Glan-yr-Afon yn Hwlffordd a Dinbych-y-pysgod. 

Canolfannau gwasanaethau cwsmeriaid: Adain y Gogledd (Neuadd y Sir, Hwlffordd), Stryd Argyle (Doc Penfro).

Lleoliadau eraill: Swyddfa Bost Cilgerran, Costa Coffee Glannau Aberdaugleddau, Arberth (Canolfan Gymunedol Tŷ Bloomfield), siop Newgale (MM Carter Gardens & Leisure), Swyddfa Bost Trefdraeth, Neuadd y Dref Penfro, Cyngor Tref Dinbych-y-pysgod, Parc Busnes Thornton (canolfan y Cyngor), Neuadd y Ddinas Tyddewi, a Swyddfa Bost Llandudoch.

Mae’r Cyngor wedi casglu gwastraff bwyd a gwydr i’w ailgylchu wrth ymyl y ffordd ers blynyddoedd. Bydd y casgliadau hyn yn parhau bob wythnos o dan y cynllun newydd. Mae’r Cyngor hefyd yn casglu’r canlynol:

·         blwch glas (papur)

·         bag glas amldro (cerdyn a chardfwrdd)

·         bagiau coch amldro (potiau, tybiau, poteli a hambyrddau plastig, cartonau a deunyddiau pacio metel – caniau, tuniau a hambyrddau ffoil)

Sylwer, mae gan dros hanner aelwydydd y sir ddiwrnodau casglu newydd.

Gwiriwch eich calendr personol (a bostiwyd atoch ym mis Hydref) os nad ydych yn siŵr o’ch diwrnod casglu.

Yn ogystal, gallwch wirio’r dyddiad fan hyn: https://www.sir-benfro.gov.uk/casglu-gwastraf/casglu-gwastraff

Mae bagiau gwastraff lliw llwyd wedi disodli’r sachau lliw du traddodiadol. Byddwn yn casglu tri bag lliw llwyd unwaith bod tair wythnos.

Gall teuluoedd sy’n cynnwys o leiaf chwe unigolyn gofrestru ar gyfer bagiau (gwyrdd) ychwanegol yn: https://www.sir-benfro.gov.uk/newidiadau-gwastraff

Mae’r Cyngor yn annog unrhyw un sydd ag ymholiadau am y gwasanaeth newydd i ddarllen y Cwestiynau Cyffredin a gwybodaeth arall ar https://www.sir-benfro.gov.uk/newidiadau-gwastraff  

Os nad yw hynny’n ateb eich ymholiad, anfonwch neges e-bost at enquiries@pembrokeshire.gov.uk

Mae’r Cyngor yn cofnodi pob ymholiad e-bost, er nad ydym yn anfon negeseuon e-bost i gydnabod ein bod wedi eu derbyn. Fodd bynnag, rydym yn delio â phob ymholiad. Peidiwch ag anfon negeseuon e-bost dilynol oherwydd bydd hynny’n ychwanegu at nifer y negeseuon mae’r Cyngor yn eu derbyn. 


ID: 5766, revised 07/11/2019