Erbyn hyn, gall Cyngor Sir Penfro fwcio meysydd chwaraeon awyr agored ar gyfer gweithgareddau wedi’u trefnu i blant.
Mae’n dilyn Llywodraeth Cymru’n caniatáu ailgychwyn gweithgareddau chwaraeon wedi’u trefnu i’r rhai dan 18 oed.
Mae’n bosibl bwcio pob un o feysydd chwaraeon y Cyngor erbyn hyn ac rydym yn gwahodd pob clwb iau i gysylltu a chadw eu lle.
Beth bynnag camp eich tîm, cyn belled ag y byddwch yn cynnig sesiynau chwaraeon wedi’u trefnu i blant, yn asesu risg gweithgareddau yn llawn ac yn dilyn y canllawiau diogelwch a bennir gan gorff llywodraethu eich camp, rydym ar agor ac yn barod i’ch croesawu nôl.
Am fwy o wybodaeth, i gadw lle a chychwyn arni, anfonwch neges e-bost at leisureadmin@pembrokeshire.gov.uk gydag enw eich clwb, y gamp y byddwch yn hyfforddi amdani, nifer y chwaraewyr a fydd yn bresennol, ynghyd â’r diwrnodau ac amserau yr hoffech i ni eu cadw ar eich cyfer.
Ychwanegwch eich enw a manylion cyswllt, ynghyd â’r lle yr hoffech ei gadw ac, yn bwysicaf oll, y ganolfan hamdden yr hoffech ei bwcio .
Bydd newyddion pellach ar ail-agor cyfleusterau yn cael ei ryddhau wrth iddo ddigwydd. Ewch i https://hamddensirbenfro.co.uk/ a dilyn Hamdden Sir Benfro ar Facebook am ddiweddariadau, newyddion a ffyrdd o gadw’n iach.