Mae swyddogion sy’n arwain ymateb Sir Benfro i Covid-19 yn annog pawb i aros gartref oni bai bod gwir raid mynd.
Mae’n dilyn y newyddion bod nifer yr achosion positif yn Sir Benfro wedi codi dros 30% yn yr wythnos a ddaeth i ben ar 7 Ionawr.
Cofnododd y sir 316 o brofion positif newydd o’r firws rhwng 1 a 7 Ionawr.
Mae hyn yn cymharu â 240 o brofion positif newydd yn Sir Benfro’r wythnos gynt.
“Dyma gyfnod gwirioneddol anodd yn y pandemig ac nid yw Sir Benfro yn imiwn,” meddai Darren Thomas, sy’n helpu i arwain yr ymateb i Covid-19 yng Nghyngor Sir Penfro.
“Rydym yn gweithio’n galed i geisio helpu cadw pobl yn ddiogel a gweithio gyda’n partneriaid i gyflwyno’r rhaglen frechu fwyaf i ni erioed ei gweld.
“Ond ni allaf bwysleisio digon: Mae’r firws ar led yn ein cymunedau ac mae cyfraddau positif Covid yn cynyddu.
“Peidiwch â chymysgu gyda phobl eraill – ddim hyd yn oed tu allan – a pheidiwch â mynd i unman yn ddiangen. Arhoswch gartref, plîs.”
Dywedodd fod y Cyngor yn bryderus iawn fod rhai pobl yn bwrw ymlaen â’u bywyd bob dydd fel pe na bai dim yn digwydd.
“Rydym yn ymwybodol iawn y bydd y sefyllfa hon yn rhwystredig ac yn bryderus i lawer o bobl, ond mae’r dewis yn un enbyd. Mae’r firws yn lladd. Gall eich lladd chi, eich teulu a’ch ffrindiau.
“Ond os byddwch chi’n aros gartref, byddwch chi’n dileu’r risg. Dilynwch y rheolau.”
Diolchodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd David Simpson, i bawb yn Sir Benfro sy’n dilyn y rheolau’n selog.
“Rydym yn ddiolchgar iawn i chi,” meddai. “Rydych chi’n gwneud gwahaniaeth. Diolch.”
Ond, meddai, mae angen i ymddygiad rhai pobl newid.
“Ffoniwch eich ffrindiau a’ch teulu yn hytrach nag ymweld â nhw. Ewch i siopa’n llai aml.
“Dechreuwch a gorffennwch eich ymarfer corff o’ch cartref – peidiwch â gyrru i wneud ymarfer corff nac ymweld ag ardaloedd prydferth lleol. Byddan nhw yma i chi o hyd ar ôl dod allan o’r cyfnod clo.”
Ychwanegodd y Cyng. Simpson: “Mae eisoes yn gyfnod o straen enfawr i feddygon, nyrsys a staff gofal iechyd eraill yn Sir Benfro.
“Peidiwch â pheri y bydd angen gofal critigol ar rywun yn Ysbyty Llwynhelyg. Peidiwch â pheri mai chi fydd y rheswm pam bydd teulu’n colli anwylyn.
“Ni allwn or-bwysleisio’r neges hon. Arhoswch gartref.”
Mae neges y Cyngor yn cyd-fynd â neges Llywodraeth Cymru ac mae ei rheolau presennol dan Lefel Rhybudd 4 fel a ganlyn:
Ewch allan dim ond i:
· Siopa am hanfodion
· Gweithio, os na allwch weithio gartref
· Ymarfer corff yn lleol – ond peidiwch â gyrru i wneud ymarfer corff
Ond cofiwch:
· Gadw pellter o 2m
· Golchi’ch dwylo
· Gwisgo mwgwd, lle mae ei angen
https://llyw.cymru/lefel-rhybudd-4-cwestiynau-cyffredin
· Os ydych chi’n gwarchod, yn hunanynysu, neu mae angen ychydig o help arnoch, mae Hwb Cymunedol Cyngor Sir Penfro yma i chi. Gall staff helpu gyda siopa, casglu presgripsiynau, cael sgwrs gefnogol dros y ffôn, eich cyfeirio at sefydliadau defnyddiol eraill, a mwy.
Dywedodd y Cyng. Tessa Hodgson, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol: “Rydym yn deall ei bod yn gyfnod cythryblus i lawer o bobl ond mae fy neges yn syml: peidiwch â bod ofn gofyn am help.
“Sefydlwyd yr Hwb yn benodol i helpu pobl Sir Benfro drwy gydol y pandemig ac mae’r staff yn barod ac yn aros i wneud yr hyn y gallant i’ch cynorthwyo chi yn y cyfnod anodd hwn.”
I bobl sydd ar-lein, mae’r tudalennau gwe’n cynnwys ychydig wybodaeth ddefnyddiol, gan gynnwys cyfeiriadur o gymorth cymunedol: www.pembrokeshire.gov.uk/communityhub
Gallwch gysylltu â’r Hwb ar 01437 776301 neu drwy e-bostio communitycovid19@pembrokeshire.gov.uk.
Ar hyn o bryd, oriau’r Hwb Cymunedol yw dydd Llun i ddydd Gwener, 9am – 5pm.