Ystafell Newyddion

Castlemartin: Y Gorffenol a'r Presennol

Dewch i ddarganfod rhai o nodweddion llai adnabyddus maes tanio Castlemartin mewn digwyddiad arbennig yn Llyfrgell Doc Penfro yr wythnos nesaf.

Ddydd Mercher 12 Mehefin a 7pm, bydd Vicky Tomlinson yn trafod tirwedd y maes enwog, sydd o fewn Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, yn ogystal â'i ddefnyddiau milwrol.

Mae Vicky yn Arweinydd Cerdded Gwirfoddol gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, a chanddi ddiddordeb brwd mewn botaneg, hanes lleol a daeareg.

Mae'r digwyddiad yn rhad ac am ddim ac nid oes angen archebu lle.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Llyfrgell Doc Penfro ar 01437 775 825

 


ID: 5304, revised 07/06/2019