COVID-19: Bydd unrhyw wybodaeth benodol yn ymwneud â Sir Benfro yn cael ei diweddaru ar www.sir-benfro.gov.uk/coronafeirws

Ystafell Newyddion

Coronafeirws: Maenor Scolton ar gau

Mae Cyngor Sir Penfro bellach wedi cau Maenordy Scolton, gan gynnwys yr holl erddi, yn dilyn tynhau pellach ar gyfyngiadau i geisio lleihau lledaeniad y coronafeirws.

Roedd Amgueddfa Maenordy Scolton, Yr Ystafell De a’r Ganolfan Ymwelwyr eisoes wedi cau ddydd Gwener 20 Mawrth, ond roedd y gerddi a’r ardal chwarae wedi parhau ar agor ar y dechrau.

Fodd bynnag, yn dilyn canllawiau nad yw teithio i fannau prydferth, parciau ac ati yn cael ei ystyried fel teithio hanfodol, mae holl safle a gerddi Maenordy Scolton bellach ar gau hyd nes yr hysbysir yn wahanol.


ID: 6234, revised 30/03/2020