Ystafell Newyddion
Coroni'r Brenin: peidiwch ag anghofio ceisiadau i gau ffyrdd ar gyfer parti stryd
Os ydych chi’n bwriadu cynnal parti stryd i ddathlu Coroni Brenin Siarl III ym mis Mai, peidiwch ag anghofio gwneud cais i gau ffordd dros dro erbyn diwedd mis Mawrth.
Mae’r Coroni’n cael ei gynnal ddydd Sadwrn Mai 6ed, 2023.
Ar draws Penwythnos y Coroni Mai 6ed, 7fed ac 8fed bydd cyfleoedd i bobl ddod at ei gilydd i ddathlu'r achlysur hanesyddol hwn.
Rhaid anfon pob cais i gau ffordd dros dro at Traffic@pembrokeshire.gov.uk erbyn 31 Mawrth fan bellaf.
ID: 9787, revised 17/03/2023