Ystafell Newyddion

Cyngor yn lansio ymgyrch i gefnogi cydweithwyr yn y GIG

Mae Cyngor Sir Penfro wedi lansio Ymgyrch Nightingale 23 a fydd yn cefnogi ac yn lleihau pwysau ar ein Hysbytai.

Mae’r Cyngor yn ymwybodol iawn o’r heriau sylweddol yn y GIG yng Nghymru ar hyn o bryd, gan gynnwys yn ein hysbyty lleol yn Llwynhelyg, lle y mae niferoedd sylweddol o gleifion angen gadael yr ysbyty ond yn aros am asesiad o angen gofal parhaus neu’r pecyn gofal cywir yn y gymuned.

O dan Ymgyrch Nightingale 23, bydd y Cyngor yn cyflwyno nifer o fesurau i helpu cynyddu llif cleifion allan o’r ysbyty, gan gynnwys

·       symud staff yn y tymor byr i rolau cymorth cymunedol

·       capasiti gwaith cymdeithasol ychwanegol

·       symud capasiti gofal cymdeithasol presennol i dimau ysbytai i flaenoriaethu asesu gofal cleifion a neilltuo pecynnau gofal.

Yn ogystal, bydd hyn yn cynnwys sicrhau ymrwymiad grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr er mwyn caniatáu i bobl adael yr ysbyty’n ddiogel a mynd adref.

Bydd yr Awdurdod yn troi at ei bartneriaid a’i gymunedau am gymorth ar draws amrywiaeth o weithgareddau cyfrannol sydd â’r potensial i gael effaith ar unwaith.

Yr wythnos ddiwethaf fe wnaeth Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru Eluned Morgan AS ymweld â Chyngor Sir Penfro lle cafodd ei diweddaru am Ymgyrch Nightingale 23.

Meddai’r Cynghorydd Tessa Hodgson, yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol a Diogelu:

“Rydym yn deall bod y pwysau o ran capasiti gwelyau, rhyddhau o’r ysbyty a heriau o ran darparu pecynnau gofal yn y gymuned, i gyd yn effeithio’n negyddol ar ein dinasyddion mwyaf bregus.

“Mae rhai o heriau’r cyngor ym maes gofal cymdeithasol yn cael eu rhannu ar draws y sector iechyd, nid y lleiaf o ran y gweithlu, y ffliw ac effaith barhaus firws Covid-19.

“Rydym yn cydnabod yr effaith sylweddol mae hyn yn ei chael ar bobl mewn ysbytai ac mewn gofal, a’u teuluoedd. Fel rhan o’n gwaith, rydym am gael y canlyniadau gorau i bawb.”

O ganlyniad i’r pwysau acíwt hyn, yn enwedig ar yr adeg hon o’r flwyddyn, a’r risg y maen nhw’n ei chreu, mae Cyngor Sir Penfro wedi penderfynu lansio Ymgyrch Nightingale.

Ychwanega’r Cynghorydd Hodgson: “Yn yr ymgyrch hon, bydd yr awdurdod ac, yn benodol, y gyfarwyddiaeth gofal cymdeithasol, yn camu i lefel ymateb critigol er mwyn datblygu ymatebion arloesol uniongyrchol a byrdymor i’r pwysau presennol, i wella llif cleifion allan o’r ysbyty ac i leihau’r pwysau ar ein cydweithwyr yn y GIG.”

Bydd yr Awdurdod yn adolygu sut y gall wreiddio’r gwaith hwn yn effeithiol yn y tymor canol i’r tymor hir, i wynebu heriau poblogaeth sy’n heneiddio – ac i wneud y newidiadau rydym yn gobeithio’u datblygu yn gynaliadwy ac yn barhaol, er lles y genhedlaeth hon a chenedlaethau i ddod.

Dywedodd Steve Moore, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: "Mae ein hysbytai yn parhau i fod yn hynod o brysur gyda nifer o gleifion sâl a galw mawr parhaus am ofal mewn argyfwng a gofal brys. Mae hyn yn golygu bod cleifion yn aros yn hirach nag y bydden ni eisiau iddyn nhw.

"Dyma gyfnod anoddaf y flwyddyn bob amser, ac rydym yn rheoli cymhlethdod y ffliw, covid a galw cynyddol ar ofal mewn argyfwng a gofal brys.   

"Ar hyn o bryd, mae gennym ni tua 300 o gleifion sy'n iach yn feddygol i gael eu rhyddhau ar draws ardal Hywel Dda. Mae hyn gyfystyr â thros draean o nifer y gwelyau yn ein hysbytai.

"Bydd Ymgyrch Nightingale 23 yn helpu i ryddhau rhai o'r gwlâu hynny a fydd yn ein galluogi i drin cleifion yn gynt ac rydym yn ddiolchgar i'n cydweithwyr ym maes gofal cymdeithasol yn Sir Benfro am flaenoriaethu'r gwaith hwn i ryddhau capasiti yn y system."

Os ydych yn meddwl y gallwch gynnig eich help i Ymgyrch Nightingale 23, cysylltwch PAVS/ Hwb Cymunedol Sir Benfro trwy  

·       Hwb Cymunedol Sir Benfro Cysylltu â Ni - Cysylltu Sir Benfro (connectpembrokeshire.org.uk)

·       01437 723660

·       enquiries@pembrokeshire communityhub.org

 

·       I gefnogi Ymgyrch Nightingale 23, gall aelodau’r gymuned ddysgu rhagor am swyddi a chyfleoedd gofal cymdeithasol yn Sir Benfro ar https://inpembrokeshirewecare.co.uk/  neu, ffoniwch ni ar 01437 775197.

·       Unrhyw un sy'n dymuno trafod swyddi gwag presennol y Cyngor ym maes gofal cymdeithasol cysylltwch â'n tîm Recriwtio ar recruit@pembrokeshire.gov.uk

https://www.sir-benfro.gov.uk/gwasanaethau-cymdeithasol-ac-iechyd/ymgyrch-nightingale


ID: 9524, revised 17/01/2023