Ystafell Newyddion

Dathlu ymroddiad gofalwyr maeth Sir Benfro yn ystod Pythefnos Gofal maeth

Yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, mae teuluoedd ledled y wlad wedi cael eu taro'n galed gan effaith y pandemig.

Wrth i bobl fethu gweld anwyliaid, gydag ysgolion ynghau a llinellau cymorth yn anodd eu cyrchu, mae cymunedau ledled Cymru wedi dod o hyd i ffyrdd eraill o gefnogi ei gilydd yn ystod y cyfnod heriol hwn. Mae hyn hyd yn oed yn fwy gwir yn achos teuluoedd maeth.

Mae llawer ohonynt wedi defnyddio'r cyfnod anodd hwn yn gyfle i greu 'normal newydd' sy'n fwy cadarnhaol – nid yn unig yn eu bywydau nhw, ond ym mywydau plant lleol.

Yn ôl Maethu Cymru, dechreuodd dros 350 o deuluoedd yng Nghymru faethu trwy eu hawdurdod lleol yn ystod pandemig COVID-19.

Yn ystod Pythefnos Gofal Maeth (9-22 Mai), mae Maethu Cymru am ddathlu'r gwahaniaeth a wnaed gan ofalwyr maeth i fywydau plant yn Sir Benfro.

O ofalwyr maeth sydd wedi dangos ymroddiad dros nifer o flynyddoedd, i'r rhai sydd newydd ddechrau ar eu taith faethu i helpu i roi dyfodol gwell i blant.

Pythefnos Gofal Maeth yw'r ymgyrch fwyaf yn y DU o ran meithrin ymwybyddiaeth o ofal maeth, a ddarperir gan yr elusen faethu flaenllaw, The Fostering Network. Y thema eleni yw 'cymunedau sy'n maethu', a bydd yr ymgyrch yn canolbwyntio ar ymrwymiad, angerdd ac ymroddiad gofalwyr maeth.

Mae'n gobeithio tynnu sylw at y ffyrdd niferus y mae pobl yn y gymuned faethu wedi cynorthwyo ei gilydd yn ystod pandemig COVID-19 – ac amlygu'r angen am fwy o ofalwyr maeth ymroddedig.

Dywedodd Darren Mutter, Pennaeth y Gwasanaethau Plant: "Mae'r ddwy flynedd ddiweddaf wedi bod yn heriol tu hwnt, yn ansicr, ac wedi peri pryder, ond rydym wedi gweld ymrwymiad a thosturi parhaus gan ein gofalwyr maeth yn Sir Benfro, sydd wedi dal ati i gynnig cartref cariadus i blant a phobl ifanc yn ystod pandemig COVID er gwaethaf y risgiau amlwg iddyn nhw, ac ar adeg pan nad oeddent hyd yn oed yn gallu treulio amser gyda'u hanwyliaid eu hunain.

"Roedd yn rhaid i bob un o'n gofalwyr addasu i fod yn athrawon, yn gwnselwyr, yn ffrindiau ac yn ddiddanwyr i blant a oedd yn gorfod aros gartref am gyfnodau hir. Roedd hyn yn gofyn llawer ganddynt, ac roedd yn her y bu iddynt ei hwynebu mewn modd clodwiw. Roedd yn anhygoel gweld lefel yr ymroddiad a amlygwyd, a'r cariad a ddangoswyd tuag at ein pobl ifanc gan ein gofalwyr maeth, a hynny ar adeg a oedd yn anodd i bawb. Nid yw geiriau'n cyfleu'r peth yn ddigonol. Mae ein gofalwyr maeth yn haeddu cael eu canmol yn fawr am yr hyn y maent wedi'i wneud ac yn parhau i'w wneud ddydd ar ôl dydd. Diolch i bob un ohonynt, oddi wrth bob un ohonom ni."

Mae Maethu Cymru Sir Benfro yn un o 22 o dimau awdurdodau lleol yng Nghymru sy'n gweithio gyda'i gilydd yn enw Maethu Cymru, sef rhwydwaith cenedlaethol o wasanaethau maethu nid-er-elw.

Mae Maethu Cymru am annog rhagor o bobl i ddod yn ofalwyr maeth i'w hawdurdod lleol fel y gall plant aros yn eu hardal leol, yn agos at eu ffrindiau a'u teulu, ac aros yn eu hysgol. Gall hyn helpu plant a phobl ifanc i gynnal eu hymdeimlad o hunaniaeth yn ystod cyfnod a fyddai, fel arall, yn un cythryblus.

Dywedodd Alaistair Cope, Pennaeth Maethu Cymru, sef y rhwydwaith cenedlaethol o wasanaethau maethu yr awdurdodau lleol:

"Nid yw'r rhan fwyaf o bobl yn sylweddoli mai eich awdurdod lleol, eich cyngor lleol, sy'n gofalu am blant pan fydd eu teulu'n profi anawsterau, neu pan fo plant yn byw mewn sefyllfaoedd camdriniol neu'n cael eu hesgeuluso, ac mai eich awdurdod lleol sy'n dod o hyd i le diogel iddynt ac sy'n gyfrifol amdanynt.

"Mae yna gyfoeth o wybodaeth yn nhîm maethu awdurdodau lleol Maethu Cymru ac ymhlith gweithwyr cymdeithasol ymroddedig, sydd i gyd yn cydweithio â theuluoedd lleol ac ysgolion lleol i adeiladu dyfodol gwell i blant lleol.

"Trwy faethu yn lleol, rydych yn helpu plant i aros yn eu cymunedau, ymhlith yr amgylchynau, yr acen, yr ysgol, yr iaith, y ffrindiau a'r gweithgareddau y maent yn gyfarwydd â nhw. Mae'n eu cadw mewn cysylltiad ac yn meithrin sefydlogrwydd a hyder. 

"Byddem yn annog pobl nid yn unig i faethu, ond i faethu trwy eu hawdurdod lleol, sy'n rhan o Maethu Cymru, sef sefydliad nid-er-elw sy'n gyfrifol am y plant yn ein gofal."

Un gofalwr maeth a benderfynodd agor ei chalon a'i chartref i ofalu am blant a phobl ifanc yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yw Liz o Aberdaugleddau. Daeth Liz a'i gŵr Dan yn ofalwyr maeth gyda Maethu Cymru Sir Benfro ym mis Mai 2021.

"Ar ôl bod yn athrawes ysgol gynradd am nifer o flynyddoedd, roeddwn yn ymwybodol bod fy ystafell ddosbarth yn fan meithrin a diogelwch i lawer o blant agored i niwed, ond roeddwn wedi fy nghyfyngu o ran y gofal y gallwn ei gynnig.

"Ymchwiliodd fy ngŵr a mi i ofal maeth cyn y pandemig ond roeddem yn hynod o ffodus i gwblhau'r cyfnod asesu a'r panel yn ddigidol. Mewn gwirionedd, rhoddodd y pandemig y lle a'r ysgogiad yr oedd arnom eu hangen i gwblhau'r asesiad yn gyflym gan fod gennym ddigon o amser i orffen ein tasgau 'gwaith cartref'.

"Roedd y cam hwn o'r asesiad yn hynod o ryddhaol, a galluogodd y ddau ohonom i ddeall yn llawn y galluoedd a'r nodweddion cadarnhaol y gallem eu cynnig i'r broses faethu. Gan weithio ochr yn ochr â'n gweithiwr cymdeithasol goruchwyliol, cafodd dyn ifanc ei leoli gyda ni, sydd wedi dod â chymaint o hwyl a chwerthin i'n cartref. Mae cynnig cartref iddo yn agos i'r ysgol wedi caniatáu iddo gadw ei ymdeimlad o hunaniaeth a threftadaeth, wrth ymgartrefu yn ein bywyd teuluol.

Mae ein bywydau wedi newid cymaint yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gan newid cartrefi a gyrfaoedd, a chynnig cariad, gofal a chefnogaeth ddiderfyn i'n plentyn maeth. Mae'n dweud ei fod yn teimlo ei fod wedi byw yma erioed, a ninnau'n teimlo'r un modd! Rydym yn edrych ymlaen at groesawu llawer mwy o blant ifanc, arddegwyr ac oedolion ifanc i'n gofal yn ystod y misoedd a'r blynyddoedd nesaf, eu cefnogi trwy gyfnodau cythryblus, rhoi llawer o brofiadau bywyd cadarnhaol iddynt ar hyd y daith, a bod yn sensitif i'w hanghenion unigol ar yr un pryd."

Cymeradwywyd Mary, sydd hefyd o Aberdaugleddau, i fod yn ofalwr maeth yn ystod y pandemig.

Dywedodd: "Yn 58 oed, dewisais ddod yn fam sengl unwaith eto i ddau fachgen hyfryd. Y tro hwn rwy'n sicr yn hŷn ac yn dod yn ddoethach, ond y gwahaniaeth yw bod gennyf bellach gefnogaeth tîm o weithwyr proffesiynol rwy'n gweithio'n agos gyda nhw, yn ogystal â gofalwyr maeth eraill. Mae'n golygu dawnsio o amgylch ein hemosiynau o ddydd i ddydd, ond mae'r chwerthin yn gwneud y cyfan yn werth chweil."

Yn y cyfamser dywedodd Sandra, sy'n ofalwr maeth profiadol, ac sydd, ynghyd â thîm Maethu Cymru Sir Benfro, yn cynorthwyo ac yn cynghori gofalwyr maeth newydd: "Yn fy marn i, mae maethu yn fraint. Mae gallu dweud fy mod wedi bod yn rhan o fywyd plentyn a'm bod wedi helpu i feithrin ac addysgu'r plentyn, a dysgu ganddo, yn rhywbeth na allaf ei fynegi mewn gwirionedd. Maent yn dod yn rhan o'n teulu sy'n caniatáu iddynt feddu ar ymdeimlad o berthyn. Rwyf wrth fy modd yn maethu'r plant a'r bobl ifanc hyn a'u gweld yn datblygu, gan wybod fy mod wedi bod yn rhan o'u taith."

I gael gwybodaeth am y modd y gallwch faethu yn Sir Benfro, ewch i https://pembrokeshire.fosterwales.gov.wales/


ID: 8707, revised 09/05/2022