Ystafell Newyddion

De-orllewin Cymru yn lansio consortiwm i gyflwyno cynnig am borthladd rhydd

Mae consortiwm i gyflwyno cynnig am borthladd rhydd sy’n cynnwys Associated British Ports, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro a Phorthladd Aberdaugleddau wedi’i lansio i archwilio’r achos ar gyfer porthladd rhydd gwyrdd yn ne-orllewin Cymru.

Mae gan Gastell-nedd Port Talbot a Sir Benfro gyfleoedd cyffrous ar y cyd ar gyfer seilwaith ynni o arwyddocâd cenedlaethol i gynorthwyo i ddatblygu gwynt alltraeth arnofiol yn y Môr Celtaidd, hydrogen a thanwyddau cynaliadwy. Mae cyfuno’r potensial hwn â sylfaen sgiliau’r rhanbarth, ei gyfleusterau presennol a’i agosrwydd at farchnadoedd allweddol yn cynnig dadl gymhellol o blaid cynnig am borthladd rhydd posibl.

Byddai porthladd rhydd yn ne-orllewin Cymru yn dod â phorthladdoedd Port Talbot ac Aberdaugleddau at ei gilydd i ddatgloi’r cyfle ehangaf posibl i Gymru a’r DU trwy sbarduno buddsoddiad a chyflymu datblygiad sgiliau modern ar gyfer diwydiannau gwyrdd newydd. Byddai’n cryfhau cyfleoedd allforio ac yn cefnogi uchelgeisiau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i sbarduno twf economaidd.

 

Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi dylunio model porthladd rhydd ar y cyd i gyflawni tri amcan, y mae’n rhaid i bob ymgeisydd eu bodloni, sef:

 

●       Hyrwyddo adfywio a chreu swyddi o ansawdd uchel;

●       Sefydlu’r porthladd rhydd fel canolfan genedlaethol ar gyfer masnach fyd-eang a buddsoddiad ar draws yr economi;

●       Meithrin amgylchedd arloesol.

 

Neath Port Talbot

Bydd y consortiwm yn cydweithio â chynrychiolwyr sefydledig a newydd y diwydiant, undebau, academyddion a rhanddeiliaid allweddol eraill i amlinellu’r cyfle llawn a chreu achos cymhellol o blaid cynnig ar y cyd ar gyfer porthladd rhydd yn ne-orllewin Cymru sydd wedi’i seilio ar dwf economaidd gwyrdd. Bydd y llwybr buddsoddiad carlam hwn a rhaglenni sgiliau modern yn galluogi cymunedau lleol i rannu manteision sylweddol twf porthladd rhydd gwyrdd.

Rhaid cyflwyno cynigion erbyn 24 Tachwedd 2022. Caiff y cynnig llwyddiannus ei gyhoeddi ar ddechrau’r gwanwyn 2023 a chaiff y porthladd rhydd ei sefydlu erbyn haf 2023.

I ddarllen mwy, ewch i Brosbectws Ymgeisio'r Rhaglen Porthladd Rhydd yng Nghymru


ID: 9093, revised 22/09/2022