Ystafell Newyddion

Digwyddiad galw heibio prysur yn datgelu dyluniadau cychwynnol ar gyfer datblygiad tai yn Ninbych-y-pysgod

Yr wythnos diwethaf, cynhaliwyd digwyddiad galw heibio llwyddiannus arall i aelodau’r cyhoedd gael gwybod mwy am ddatblygiad tai arfaethedig Brynhir yn Ninbych-y-pysgod.

Manteisiodd tua 100 o bobl ar y cyfle i weld y dyluniadau cychwynnol a rhoi adborth i’r tîm dylunio.

Y cam nesaf fydd yr ymgynghoriad cyn cynllunio yn haf 2022.

Gallwch weld y cynlluniau cychwynnol a rhoi adborth yn: https://dweudeichdweud.sir-benfro.gov.uk/brynhir

Dywedodd y Cynghorydd Jon Harvey, Aelod Cabinet dros Gynllunio a Chyflenwi Tai: “Roedd yn wych bod cymaint o bobl wedi manteisio ar y cyfle i ddysgu mwy am gynlluniau cychwynnol y prosiect tai pwysig hwn yn Ninbych-y-pysgod.

“Mae hwn yn gam cynnar yn y cyfnod dylunio ac ymgynghori, a gall pethau newid wrth i ni symud ymlaen, felly mae pob darn o adborth yn bwysig.

“Mae’r weinyddiaeth hon yn deall pwysigrwydd cyflawni prosiectau tai fforddiadwy ledled Sir Benfro ac rydym wedi ymrwymo i wneud hynny.”

Dywedodd Maer Dinbych-y-pysgod, y Cynghorydd Samantha Skyrme-Blackhall, sydd hefyd yn Gynghorydd Sir dros Dde Dinbych-y-pysgod: “Mae ymdeimlad cadarnhaol iawn am y datblygiad hwn.

“Mae angen adeiladu’r cartrefi hyn. Mae’n ymwneud â chymuned a chadw ein cymuned yn y dref.”

Ychwanegodd Cynghorydd Tref Dinbych-y-pysgod, y Cynghorydd Paul Rapi: “Rydym wedi bod angen hyn yn Ninbych-y-pysgod ers blynyddoedd lawer. Mae’r ffaith y bydd ein trigolion lleol yn gallu cael y cyfle i fyw mewn tai fforddiadwy a thai cymdeithasol yn fantais fawr i’r dref. Mae’r datblygiad yn edrych yn wych ac mae’r ffaith ei fod mor ecogyfeillgar yn fonws ychwanegol.”

Mae’r newyddion diweddaraf am ddatblygiadau i’w gael ar y dudalen Tai ar Facebook: https://www.facebook.com/PCCHousing

Gellir anfon unrhyw ymholiadau at housingCLO@pembrokeshire.gov.uk


ID: 8818, revised 23/06/2022