Ystafell Newyddion

Ffair Wanwyn Maenordy Scolton

Cynhelir Ffair Wanwyn Maenordy Scolton ddydd Sul yma, 17 Mawrth rhwng 10am-4pm

Bydd dros 30 o grefftwyr lleol yn arddangos eu cynnyrch gan gynnwys bwyd, celf, crefft, anrhegion a gemwaith.

£1 y person fydd y pris mynediad, gyda’r rhai dan 15 oed yn cael mynd i mewn am ddim.

Bydd tâl parcio dyddiol yn berthnasol.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Nikki Caldwell ar 01437 731328 neu ewch i dudalen Facebook Maenordy Scolton – facebook.com/scoltonmanor.


ID: 4994, revised 12/03/2019