Ystafell Newyddion
Goleuo Neuadd y Sir yn ymuno â chofio’r Holocost yn y DU
Bydd Diwrnod Cofio’r Holocost yn cael ei gydnabod trwy oleuo Neuadd y Sir yn Hwlffordd ddydd Gwener, 27 Ionawr.
Mae Diwrnod Cofio’r Holocost yn nodi’r diwrnod pan ryddhawyd gwersyll Auschwitz-Birkenau, ac mae’n cofio’r chwe miliwn o Iddewon a lofruddiwyd yn ystod yr Holocost a phawb a laddwyd yn yr hil-laddiadau ers hynny yng Nghambodia, Rwanda, Bosnia a Darfur.
Thema’r cofio eleni yw ‘Pobl Gyffredin’ ac mae’n canolbwyntio ar y rôl sydd ganddynt mewn hil-laddiad, o anwybyddu, credu propaganda, ac ymuno â chyfundrefnau milain.
Mae’r rhai sy’n cael eu herlid hefyd yn bobl gyffredin sy’n perthyn i grŵp penodol, yn yr un modd â’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau dewr i achub, cuddio neu wrthsefyll a herio rhagfarn.
Fel rhan o thema Diwrnod Cofio’r Holocost, Goleuo’r Tywyllwch, bydd Neuadd y Sir yn ymuno ag adeiladau blaenllaw ledled y DU ac yn cael ei goleuo’n borffor.
Meddai Cadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Pat Davies: “Rydym ni’n gwybod y gallai’r diwrnod hwn fod yn fwy arwyddocaol fyth eleni i bobl o Wcráin sydd wedi ffoi rhag rhyfel, a’r rhai sydd am nodi cyflafan Babi Yar, a ddifethodd gymuned Iddewig Kyiv ar 29 Medi 1941.
“Bydd goleuo Neuadd y Sir yn borffor ar Ddiwrnod Cofio’r Holocost yn dangos parch ac yn symbol o obaith at y dyfodol.”
Ychwanegodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd David Simpson: “Mae Diwrnod Cofio’r Holocost yn ddiwrnod i gofio’r erchyllterau y mae dyn wedi’u hachosi i’w gyd-ddyn, ac yn parhau i wneud, ac mae’n gyfle pwysig i fyfyrio ar sut y gall goleuni ddod o’r tywyllwch.”
#DiwrnodCofiorHolocost #GoleuorTywyllwch
#HolocaustMemorialDay #LightTheDarkness