Mae cyfres o Gwestiynau Cyffredin yn ymwneud â grantiau busnes Covid-19 wedi’i llunio gan Gyngor Sir Penfro.
Gobeithir y bydd y Cwestiynau Cyffredin yn ateb llawer o’r ymholiadau sy’n cael eu derbyn gan fusnesau lleol.
Yn ddigon dealladwy, o ystyried nifer y cynlluniau grantiau gwahanol sydd wedi’u cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf, gofynnwyd llu o gwestiynau ynglŷn â pha grant i ymgeisio amdano, sut fydd yr arian yn cael ei ddosbarthu, graddfeydd amser disgwyliedig ar gyfer taliadau ac ati.
Y grantiau presennol sy’n cael eu prosesu yw’r Grantiau Cyfyngiadau. Mae grantiau’r Cyfnod Clo Byr wedi cau erbyn hyn.
Mae un o’r cwestiynau mwyaf cyffredin a dderbynnir yn ymwneud â thaliadau awtomatig o’r grant yn ymwneud ag Ardrethi Annomestig.
Mae’r Cwestiynau Cyffredin yn egluro, lle bo modd, bod taliadau awtomatig ar gyfer y Grant Cyfyngiadau wedi’u gwneud ar ddiwedd mis Rhagfyr a dechrau mis Ionawr.
Mae’r holl daliadau awtomatig wedi’u prosesu erbyn hyn.
Os nad ydych chi wedi derbyn taliad awtomatig yn ymwneud â’r grant Ardrethi Annomestig, yna bydd angen i chi wneud cais.
Mae gan y Cyngor dîm penodedig sy’n gweithio’n galed i brosesu’r grantiau i sicrhau bod yr arian yn cyrraedd busnesau Sir Benfro cyn gynted ag y bo modd.
Gellir gweld y Cwestiynau Cyffredin yma https://www.pembrokeshire.gov.uk/business-advice-and-support o dan y pennawd Cronfa Busnesau dan Gyfyngiadau.
Gellir cael rhagor o wybodaeth am grantiau busnes a sut i wneud cais drwy’r un ddolen.