Ystafell Newyddion
Gwobrau ariannu mawr ar gyfer clybiau chwaraeon Sir Benfro
Mae 52 o glybiau chwaraeon yn Sir Benfro wedi llwyddo i gael cyllid gan 'Gronfa Cymru Actif' Chwaraeon Cymru yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf.
Mae'r clybiau wedi derbyn cyfanswm o £282,000, gyda grantiau'n amrywio o £600 i £36,000.
Mae'r chwaraeon a gefnogir yn cynnwys athletau, saethyddiaeth, bocsio, bowlio, canŵio, criced, pêl-droed, golff, gymnasteg, pêl-rwyd, rhwyfo, rygbi, hwylio, achub bywyd syrffio, nofio, padlfyrddio ar eich sefyll, tenis bwrdd a chodi pwysau.
Bydd yr arian yn mynd tuag at amrywiaeth o ddefnyddiau; o gyrsiau i hyfforddwyr a phrynu eitemau o offer i gefnogi cynnydd mewn aelodaeth, i brosiectau mwy fel disodli rhwydi ymarfer mewn clybiau criced.
Mae angen i geisiadau llwyddiannus fodloni meini prawf Chwaraeon Cymru o ran datblygu cynaliadwyedd hirdymor y clwb neu fynd i'r afael ag anghydraddoldebau.
· I gael cymorth a chyngor ar gyflwyno cais ar gyfer rownd nesaf ‘Cronfa Cymru Actif’ Chwaraeon Cymru, cysylltwch â swyddogion datblygu chwaraeon Cyngor Sir Penfro, Alan Jones neu Lois Hilling ar sport@pembrokeshire.gov.uk