Ystafell Newyddion
Help i lunio cynllun llesiant y sir ar gyfer y pum mlynedd nesaf
Bydd cyfres o ddigwyddiadau ymgynghori yn cael eu cynnal dros yr wythnosau nesaf ar Gynllun Llesiant drafft 2023 ac anogir cyhoedd Sir Benfro i gymryd rhan.
Nod y Cynllun Llesiant, sy'n cael ei lunio gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro, yw amlygu, blaenoriaethu a chytuno ar yr amcanion a'r camau gweithredu i wella llesiant ar draws y sir yn 2023-2028.
Fel rhan o'r broses adborth, cynhelir cyfres o sesiynau ar-lein lle gall aelodau'r cyhoedd drafod unrhyw agweddau o'r cynllun drafft.
Cynhelir y digwyddiadau ar-lein ar:
· 2-3pm, dydd Iau, 26 Ionawr
· 6-7pm, dydd Llun, 30 Ionawr
· 12 canol dydd-1pm, dydd Mercher, 1 Chwefror
Cofrestrwch eich presenoldeb drwy'r ffurflen gofrestru ar: https://haveyoursay.pembrokeshire.gov.uk/come-and-talk-to-us-about-the-draft-well-being-plan
Os nad yw'r amseroedd a'r dyddiadau hynny’n gyfleus i chi, neu os byddai'n well gennych gael sesiwn wyneb yn wyneb, gallwch gynnwys hyn ar y ffurflen gofrestru trwy'r ddolen uchod neu drwy ffonio Hwb Cymunedol Sir Benfro ar 01437 723660 neu anfonwch e-bost at: enquiries@pembrokeshirecommunityhub.org
Gofynnir am ymatebion erbyn dydd Gwener, 17 Chwefror.
Dywedodd y Cynghorydd Neil Prior, Cadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro: "Manteisiwch ar y cyfle hwn i ofyn unrhyw gwestiynau neu i ofyn am eglurhad am y Cynllun Llesiant drafft a rhoi eich adborth.
"Mae hon yn ddogfen bwysig iawn ar gyfer Sir Benfro a'n huchelgais i wella llesiant pawb dros y pum mlynedd nesaf."