Ystafell Newyddion
Llwyddiant diwrnod hwyl chwaraeon i'r teulu yn Aberdaugleddau
Cymerodd bron 200 o bobl ran mewn diwrnod ffitrwydd hwyl i'r teulu a drefnwyd gan Ysgol Uwchradd Aberdaugleddau mewn partneriaeth â Chwaraeon Sir Benfro yn ddiweddar.
Cafodd teuluoedd wared ar felan mis Ionawr yng Nghanolfan Hamdden Aberdaugleddau ddydd Sadwrn (21 Ionawr) lle roedd cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau rhad ac am ddim, gan gynnwys nofio i'r teulu, bowlio, pêl-droed, pêl-rwyd, rygbi, pêl-fasged, hoci, zorbing, troelli i'r teulu, llafnrolio a chwarae sgarmes i blant iau.
Roedd eitemau brecwast am ddim i ddechrau'r diwrnod a chawl neu gŵn poeth am ddim i ginio, sy'n golygu bod llawer o'r rheiny a gymerodd ran wedi cael cyfle perffaith i aros a rhoi cynnig ar rywbeth newydd yn 2023 a dysgu sut mae gweithgarwch corfforol yn dda i'n hiechyd a'n lles.
Diolch i gyllid grant Cronfa Gymunedol Comic Relief yng Nghymru, mae Ysgol Aberdaugleddau wedi bod yn cyflwyno amrywiaeth eang o ddigwyddiadau cymunedol ers mis Hydref 2022 gan gynnwys digwyddiad ddydd Sadwrn, lle bu Chwaraeon Sir Benfro yn cynnal y gweithgareddau a darparu gwybodaeth am glybiau yn yr ardal leol.
Dywedodd Jodie Crolla, Swyddog Cyfathrebu a Grantiau yn Ysgol Aberdaugleddau: "Rydyn ni wrth ein boddau ein bod ni'n gallu cynnig cymaint o gyfleoedd i'n cymuned diolch i arian grant. Nod y digwyddiad hwn oedd annog gweithgarwch corfforol i wella lles a rhoi cyfle i'n cymuned roi cynnig ar rywbeth newydd. Fe wnaethon ni addasu'r digwyddiad i gynnwys brecwast a chinio am ddim i helpu'r rheiny sy'n ei chael hi’n anodd oherwydd yr argyfwng costau byw. Roedd y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol ac rydyn ni'n gobeithio gallu cynnal rhywbeth fel hyn eto."
Dywedodd Jennifer Losada sy'n gweithio i Chwaraeon Sir Benfro ac yn Swyddog Pobl Ifanc Egnïol Ysgol Aberdaugleddau: "Roeddwn i'n hapus iawn i gydweithio â'r ysgol i drefnu'r Diwrnod Hwyl i'r Teulu hwn. Mae mor bwysig bod pawb yn gwybod beth sydd ar gael iddyn nhw yn eu hardal leol a rhoddodd hyn blatfform gwych i ni rannu â gymuned y cyfleoedd sydd gan Chwaraeon Sir Benfro i'w cynnig."
Os gwnaethoch chi fynychu’r digwyddiad ac mae gennych ddiddordeb mewn parhau ag un neu fwy o'r gweithgareddau, cysylltwch â jennifer.losada@pembrokeshire.gov.uk yn Chwaraeon Sir Benfro.