Ystafell Newyddion

Nodi pen-blwydd yn 108 oed gyda cherdyn oddi wrth Ei Fawrhydi y Brenin

Mae un o breswylwyr Cartref Gofal Hillside yn Wdig wedi dathlu pen-blwydd nodedig yn 108 oed.

Roedd pen-blwydd Ivy Skeate ar 1 Tachwedd a dathlodd Ivy gyda the a chacen, ac ymweliad gan ei theulu y diwrnod canlynol.

Dywedodd Annette Narbett, Rheolwr Cartref Cofrestredig yn Hillside, sy'n cael ei redeg gan Gyngor Sir Penfro, fod Ivy wrth ei bodd yn derbyn cerdyn gan Ei Fawrhydi y Brenin i nodi'r achlysur.

Ganwyd Ivy, sy’n breswylydd hynaf Hillside, ac yn un o'r bobl hynaf yng Nghymru, ychydig wedi dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf.

 

 

 


ID: 9338, revised 21/11/2022