Ystafell Newyddion
Nodyn atgoffa am ryddhad ardrethi ar gyfer busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch
Mae nodyn atgoffa yn mynd allan i fusnesau yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch yn Sir Benfro i wneud cais am ryddhad ardrethi.
Y llynedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynllun rhyddhad ardrethi manwerthu, hamdden a lletygarwch yng Nghymru ar gyfer 2022-23.
Mae eiddo a all elwa yn cynnwys siopau, tafarndai a bwytai, campfeydd, lleoliadau perfformio a gwestai.
Rhoddir rhyddhad i fusnesau cymwys fel gostyngiad i’r bil ardrethi yn seiliedig ar feddiannaeth rhwng 1 Ebrill 2022 i 31 Mawrth 2023.
Nod y cynllun yw darparu cymorth i eiddo a feddiannir sy’n gymwys trwy gynnig disgownt o 50% ar filiau ardrethi annomestig.
Bydd y cynllun yn berthnasol i’r holl fusnesau cymwys, fodd bynnag, bydd y rhyddhad yn destun cap o ran y swm y gall pob busnes ei hawlio ledled Cymru.
Cyfanswm y rhyddhad sydd ar gael yw £110,000 ar draws yr holl eiddo a feddiannir gan yr un busnes.
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 31 Mawrth.
I gael mwy o wybodaeth am sut i wneud cais, gweler:
https://www.sir-benfro.gov.uk/trethi-busnes/rhyddhad-ardrethi-manwerthu-hamdden-a-lletygarwch-yng-nghymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi rhyddhad ardrethi pellach ar gyfer 2023-24 a bydd manylion yn cael eu cyhoeddi maes o law.