Ystafell Newyddion
Nodyn i'ch atgoffa: Bydd maes parcio aml-lawr Hwlffordd yn cau ddydd Llun, 20 Mehefin
Atgoffir trigolion ac ymwelwyr i Hwlffordd y bydd maes parcio aml-lawr y dref ar gau i'r cyhoedd o ddydd Llun, 20 Mehefin.
Bydd y maes parcio'n parhau ar gau hyd nes y bydd y prosiect ar gyfer Cyfnewidfa Drafnidiaeth Gyhoeddus newydd wedi'i gwblhau.
Mae'r maes parcio amgen agosaf yn Hwlffordd ar gael yn:
· Perrots Road (tu ôl i Wilko – arhosiad byr)
· Scotchwell (tu ôl i Aldi)
· Llyn y Castell (mae toiledau cyhoeddus yn y maes parcio hwn hefyd)
· Neuadd y Sir (penwythnosau)
Mae mwy o wybodaeth am barcio yn Hwlffordd ar gael ar: https://www.pembrokeshire.gov.uk/haverfordwest-car-parks
Ceir gwybodaeth am bwyntiau gwerfru cerbydau trydan ar: https://www.zap-map.com/live/
Sylwch y bydd siopau a busnesau yn aros ar agor fel arfer.
Mae'r prosiect i greu Cyfnewidfa Trafnidiaeth Gyhoeddus newydd yn rhan o waith adfywio ehangach Cyngor Sir Penfro i adfywio canol tref Hwlffordd.
Mae'r maes parcio aml-lawr presennol mewn cyflwr gwael ac mae'n ofod annymunol yng nghanol y Dref Sirol.
Mae hefyd yn anodd llywio o’i gwmpas ar gyfer cerbydau modern, mwy, felly mae'n aml yn cael ei danddefnyddio.
Bydd y Gyfnewidfa Drafnidiaeth Gyhoeddus newydd yn creu taith ddi-dor a phontio clir i deithwyr sy'n defnyddio'r cyfleusterau trafnidiaeth - gan gynnwys gorsaf fysiau integredig - gan annog pobl i ddod oddi ar y bysiau ac archwilio canol y dref.
Gall pobl ddysgu mwy am y cynlluniau a'r prosiectau cyffrous ar gyfer Hwlffordd mewn digwyddiad llif byw ddydd Gwener 24 Mehefin rhwng 10am a 12.
Cewch fwy o wybodaeth yma: https://www.pembrokeshire.gov.uk/newsroom/haverfordwest-is-changing
Cewch fwy o fanylion am Brosiect Cyfnewidfa Gyhoeddus Hwlffordd yma: https://www.pembrokeshire.gov.uk/parking-in-pembrokeshire/haverfordwest-public-transport-interchange