Ystafell Newyddion
Pâr yn croesawu cynllun ymarfer corff sydd wedi trawsnewid bywydau
Mae pâr priod wedi croesawu effaith gadarnhaol cynllun ymarfer corff sydd wedi eu helpu i gynnal annibyniaeth a pharhau i fwynhau bywyd.
Cafodd Richard a Gwenda Innes o Pentlepoir eu cyfeirio ar wahân at y Cynllun Ymarfer Corff Cenedlaethol yn 2022 gan ddechrau rhaglen 16 wythnos.
Nod y cynllun, sy'n cael ei redeg gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a'i gyflwyno yng Nghanolfannau Hamdden Sir Benfro, yw helpu pobl i adsefydlu o amrywiaeth o gyflyrau meddygol gwahanol a byw gyda nhw, cynnal iechyd cyffredinol, gwella gallu gweithredol a gwella ansawdd bywyd trwy weithgarwch strwythuredig.
Mae'r buddion yn cynnwys; pwysedd gwaed is, lefelau colesterol is, lles meddyliol a chymdeithasol uwch, llai o risg o glefyd y galon a strôc, mwy o gryfder, symudedd, cydsymud a chydbwysedd, lefelau ynni gwell, llai o straen, pryder ac iselder. Mae colli pwysau neu ennill pwysau, lle bo hynny'n briodol, yn fanteision hefyd.
Mae Gwenda, sy’n 77 oed, yn aros am lawdriniaeth i osod pen-glin newydd ac roedd angen cryfhau'r cyhyrau o amgylch y pen-glin a rhan isaf y goes.
Roedd Richard, sy’n 79, wedi colli hyder wrth sefyll a cherdded ar ôl cyfres o gwympiadau.
Cafodd y ddau eu cyfeirio at y cynllun yng Nghanolfan Hamdden Dinbych-y-pysgod a'u rhoi dan oruchwyliaeth Tom Delaney, Gweithiwr Proffesiynol Atgyfeiriadau Ymarfer Corff.
Rhagnodwyd cynllun hyfforddi personol i'r ddau i sicrhau bod yr ymarferion yn ddiogel ac yn effeithiol.
Mae hyn yn cynnwys defnyddio melin draed, beic ymarfer corff ac offer arall dan oruchwyliaeth gyda'r nod o gael cleientiaid i weithio'n annibynnol gydag amser.
Mae'r canlyniad i'r ddau wedi bod yn anhygoel.
Dywedodd Tom: "Mae Richard wedi colli dros stôn ac wedi magu hyder, ac mae ei allu i gyflawni symudiadau o ddydd i ddydd wedi gwella. Wrth iddo nesáu at ei ben-blwydd yn 80 oed, mae'n brawf nad yw byth yn rhy hwyr i wneud newidiadau cadarnhaol.
"Mae Gwenda wedi colli dros ddwy stôn ac wedi datblygu cryfder cyhyrol, ac mae ei choesau bellach yn gryfach sydd wedi gwella swyddogaeth ei phen-glin. Mae ei ffitrwydd aerobig cynyddol a swyddogaeth well ei phen-glin wedi ei galluogi i wneud pethau nad yw hi wedi'u gwneud ers blynyddoedd, fel cerdded i fyny bryniau - roedd Gwenda yn meddwl na fyddai hyn yn bosibl eto.
"Mae rhoi'r hyder a'r cymhwysedd i gleientiaid fel Richard a Gwenda fod yn egnïol yn amlygu pa mor bwysig yw'r cynllun.
"Nid yn unig helpu pobl i fyw bywydau hapusach; nid oes gan gleientiaid iachach, mwy ffit cymaint o angen am driniaeth feddygol a chael ei derbyn i'r ysbyty."
Dywedodd Gwenda fod y gwahaniaeth yn Richard yn arbennig yn arwyddocaol ac roedd y ddau yn parhau i wneud ymarfer corff yng Nghanolfan Hamdden Dinbych-y-pysgod ar ôl diwedd y cwrs: "Mae Richard bellach yn gallu treulio 15 munud ar y felin draed ar gyflymder o 3.5kmya, gosod y beic ar gêr pedwar hefyd am 15 munud, ac yna gwneud 10 munud arall ar y beic llaw.
"Mae e bellach bron yn hyderus i symud o gwmpas y byngalo heb ei ffon gerdded ac mae hefyd yn gallu "cerdded o gwmpas yr ardd. Mae nawr yn dod gyda fi i siopa ac yn cerdded o gwmpas yn gwthio'r troli."
Dywedodd y Cynghorydd Rhys Sinnett, Aelod Cabinet Cyngor Sir Penfro dros Wasanaethau Preswylwyr: "Mae'n wych clywed yr adborth hwn ar y ffordd y mae'r cynllun hwn yn cael ei redeg yn ein Canolfannau Hamdden yn helpu pobl i fyw eu bywydau gorau posibl.
"Hoffwn ddiolch i'r holl staff ymroddedig sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau preswylwyr.
"Os oes gennych ddiddordeb yn y cynllun, siaradwch â'ch meddyg teulu neu weithiwr meddygol proffesiynol arall a gofynnwch os ydych yn gymwys ar gyfer y cynllun atgyfeirio i wneud ymarfer corff."
Gall cleientiaid gael at y cynllun atgyfeirio i wneud ymarfer corff ym mhob un o brif Ganolfannau Hamdden Sir Benfro yn Hwlffordd, Aberdaugleddau, Penfro, Dinbych-y-pysgod, Abergwaun a Chrymych.
Mae cleientiaid yn cael cefnogaeth ac anogaeth barhaus gan eu hyfforddwr drwy gydol eu hamser ar y cynllun, er mai'r nod yn y pen draw yw ymarfer corff annibynnol hirdymor.
Mae cost ar gyfer pob sesiwn sydd wedi cael cymhorthdal i alluogi mwy o bobl i gael mynediad i'r sesiynau.
Ceir mwy o wybodaeth ar wefan Cyngor Sir Penfro.
Pennawd: Mae Gwenda a Richard Innes wedi canmol y gwahaniaeth mae ymarfer corff wedi ei wneud iddyn nhw. Maent yn y llun gyda Tom Delaney, Gweithiwr Proffesiynol Atgyfeiriadau Ymarfer Corff.