Mae Cyngor Tref Penfro’n mynd i fuddsoddi yn y llyfrgell a chanolfan groeso leol.
Bydd y cyfleuster yn elwa o ryw £20,000 yn y flwyddyn ariannol 2019/20 ar ôl i gynghorwyr lleol gytuno i gyfrannu tuag at y costau gweithredu.
Roedd y llyfrgell a chanolfan groeso’n mynd i gau a chael ei disodli gan Wasanaeth Llyfrgell Symudol oherwydd cwtogiadau. Fodd bynnag, bydd y chwistrelliad arian yn sicrhau cynnal gwasanaeth presennol.
Mae llyfrgell Penfro ar agor chwe diwrnod yr wythnos yn ystod yr haf ac yn cau ar ddydd Llun a dydd Mercher rhwng Tachwedd a Mawrth.
Yn dilyn y penderfyniad, meddai Mike Cavanagh, Pennaeth Gwasanaethau Hamdden a Diwylliannol; “Rwy’n hynod falch bod Cyngor Tref Penfro’n cefnogi llyfrgell y dref fel hyn.
“Nid yn unig mae’n caniatáu i ni gadw’r trefniadau presennol, mae hefyd yn diogelu swyddi ein staff ffyddlon ac ymroddedig wrth sicrhau bod cwsmeriaid yn cael y gwasanaeth proffesiynol y daethant i’w ddisgwyl gennym.”
Meddai Maer Penfro, y Cynghorydd Linda Brown: “Mae’r cyfleuster hwn mor bwysig i Benfro, a byddwn yn ceisio cadw’r llyfrgell a chanolfan wybodaeth ar agor gyhyd ag y bo modd.
“Nid yn unig mae’n elwa’r gymuned leol, rydym yn gyrchfan ymwelwyr, a byddai colli hyn yn ergyd chwerw.”
Geiriad
Llyfrgell a Chanolfan Wybodaeth Penfro