Ystafell Newyddion

Pobl o Sir Benfro’n ymuno â channoedd o bobl ledled y byd sy’n cael yr anrhydedd o gludo Baton y Frenhines

Pan fydd Taith Baton y Frenhines Birmingham 2022 yn teithio trwy ogledd y Sir ddydd Gwener, 1 Gorffennaf, caiff ei gludo gan lu o bobl leol, gan ymuno â’r cannoedd ledled y byd a ddewiswyd ar gyfer yr anrhydedd.

Mae plant ysgol lleol, aelodau Cadetiaid Môr Abergwaun, pobl sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn i’w cymuned yn Sir Benfro, a phobl sydd â stori ysbrydoledig i’w hadrodd, ymhlith Cludwyr y Baton.

Un sydd â stori wirioneddol ysbrydoledig yw Paula Craig MBE, o Abergwaun.

Roedd Paula wrth ei bodd yn rhedeg marathonau a gwneud triathlonau, ond pan oedd yn Heddwas gyda Heddlu’r Metropolitan yn 2001, cafodd ei bwrw oddi ar ei beic tra’r oedd hi’n hyfforddi ar gyfer Pencampwriaeth Triathlon y Byd.

O ganlyniad i’r gwrthdrawiad, cafodd Paula anafiadau a newidiodd ei bywyd, ond nid oedd Paula’n un i ildio.

Ymhen amser, dychwelodd i’w gyrfa, gan gael ei dyrchafu i fod yn Dditectif Arolygydd yn gweithio gyda Grŵp Troseddau Difrifol Heddlu’r Metropolitan a chael MBE am ei gwasanaeth.

Hefyd, trodd Paula yn ôl at ei hawch i gystadlu, gan ennill paratriathlon yn Hawaii.

Ym Marathon Llundain, tybir mai Paula yw’r fenyw gyntaf i gystadlu fel rhedwr i ddechrau, a hefyd i wneud y ras mewn cadair olwyn.

Yn fwy diweddar, ymunodd Paula ag ymgais i nofio’r Sianel mewn ras gyfnewid ar gyfer elusen, gan nofio am awr yn ei thro gydag aelodau eraill y tîm. Tybir mai hi yw’r person paraplegig cyntaf i roi cynnig ar groesi’r Sianel heb siwt wlyb.

Bu Paula’n gwasanaethu yn yr heddlu am 31 o flynyddoedd ac, ers hynny, mae wedi dod yn siaradwr ysgogiadol.

Paula fydd yn cael yr anrhydedd o fod yn gludwr Olaf y Baton ar y daith yn Sir Benfro, gan fynd â’r Baton i mewn i Ysgol Bro Gwaun.

Baton relay  

Meddai Cynghorydd Sir Benfro, Rhys Sinnett, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Preswylwyr: “Rydym yn falch iawn bod gennym gynrychiolaeth wych o bobl yn cludo’r Baton yn Sir Benfro, o blant ysgol, i sêr chwaraeon y dyfodol a phobl sy’n helpu eraill i fwynhau ac elwa o chwaraeon.

“Mae un o’n Cludwyr Baton yn ei nawdegau hyd yn oed, sy’n rhwyfo dan do yn fynych ac wedi torri sawl record – tystiolaeth bod cadw’n actif mor dda i ni gyd wrth i ni heneiddio.

“Gobeithio bydd Taith y Baton yn Sir Benfro a’r Gemau yn Birmingham yn ysbrydoli mwy o bobl i gymryd rhan mewn chwaraeon, dod yn fwy actif a mwynhau’r holl fuddion mae hynny’n ei gynnig.”

Caiff gwylwyr eu hannog i wylio’r Baton ar y Parrog yn Wdig (bydd yn cyrraedd am 10.50 fore Gwener), gan mai dyma’r lleoliad sydd â’r mwyaf o le.

 Dathlu Taith y Baton

Dyma’r amserlen ar gyfer amser y Baton yn Sir Benfro:

·         Bore: Cyrraedd Castell Henllys i deithio drwy’r pentref Oes Haearn, gyda disgyblion Ysgol Eglwyswrw yn ei gario (nid yw hyn ar agor i’r cyhoedd)

·         10:15am: Cyrraedd Cwm Gwaun i’w gyfnewid ar hyd yr Harbwr cyn ei drosglwyddo ar long i Wdig (sylwch mai prin yw’r lle i bobl wylio fan hyn)

·         10:50am Y Parrog, Wdig: Dod wyneb yn wyneb â Byddin Jemima, a wrthsafodd y Goresgyniad diwethaf ar Brydain, yna cludo’r Baton ar draws traeth Wdig 

·         11:30: Taith gyfnewid i Ysgol Bro Gwaun, lle bwriedir cynnal gweithgareddau pellach yn ystod y dydd (na fyddant ar agor i’r cyhoedd) gan gynnwys ymgais i dorri record byd wrth basio pêl rygbi  .

Byddwch yn gallu dilyn manylion taith y Baton ar gyfrifon Cyngor Sir Penfro, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Visit Pembrokeshire ar y cyfryngau cymdeithasol fore Gwener, 1 Gorffennaf.

 

Cludwyr dethol y Baton:

Y Parrog, Wdig

 

Kay Evans (Jemima Nicholas): Mae Jemima Nicholas, sy’n cael ei galw’n Jemima Fawr ambell waith, yn dipyn o arwres yn lleol.

Ym 1797, fe wnaeth Jemima, ar ei phen ei hun, hel rhyw ddwsin o filwyr Ffrengig ynghyd yn ystod y goresgyniad diwethaf ar dir mawr Prydain a’u gorfodi i ildio, gyda’i phicwarch fel ei hunig arf.

 Crydd oedd hi wrth ei gwaith a cherddodd y milwyr i’r eglwys leol a’u cloi yn yr eglwys, hyd nes aethpwyd â nhw i’r carchar. Mae ei charreg bedd i’w gweld yn Eglwys y Santes Fair ac mae lle allweddol iddi ar dapestri’r goresgyniad olaf yn Neuadd y Dref.

 

Brian Millard: Mae Brian yn gynorthwyydd addysgu yn Ysgol Portfield, Hwlffordd.

 Mae Ysgol Portfield yn darparu addysg i ddisgyblion rhwng 3 a 19 oed sydd â datganiadau o anghenion addysgol arbennig.

 Mae Brian hefyd yn rhedeg Fishguard Thunderbolts, sef clwb pêl-droed ac aml-chwaraeon i bobl anabl yn Abergwaun. 

 Mae’r Thunderbolts i bobl rhwng 14 a 60 oed ac mae’n rhoi cyfle iddynt nid yn unig gymryd rhan mewn chwaraeon, ond lle i gymdeithasu hefyd.

 Mae’r Thunderbolts yn cystadlu mewn gwyliau pêl-droed ledled de Cymru, ac yn y pencampwriaethau i bobl anabl yng Nghasnewydd.

Yn ddiweddar, mae Brian wedi dechrau helpu hyfforddi criced super 1s i bobl anabl ac mae hefyd yn hyfforddwr pêl-droed iau gyda Fishguard Sports AFC. 

 

Julia Moffett: Mae Julia yn rhan o Wyrddio Abergwaun ac Wdig.

Grŵp garddio cymunedol yw hwn sy’n cynnal a chadw ac yn plannu’r mannau gwyrdd yn Abergwaun ac Wdig.

Mae’r grŵp yn hyrwyddo bioamrywiaeth, y manteision i les a ddaw yn sgil mynd allan i’r awyr iach i arddio, a balchder lleol ym mhrydferthwch ein trefi.

 

Y Daith i Ysgol Bro Gwaun

Valerie Coleman: Mae Valerie yn enwog yn Abergwaun am fod yn aelod gweithgar o’r gymuned.

Ym mis Mawrth 2020, ychydig cyn y cyfnod clo, ymunodd â’r clwb rhwyfo ac i ffwrdd â hi! 

Ers hynny, mae Val wedi cystadlu ar beiriant rhwyfo dan do concept 2 ac wedi chwalu sawl record byd dros bellteroedd o 500m, 1000, 2,000 a 5,000 yng nghategori ei hoedran, sef 90 oed a hŷn. 

Hefyd, mae Val yn nofio bob dydd ac yn mynd i Pilates ac yoga o leiaf 2 i 3 gwaith yr wythnos. Mae hi’n rym natur ac yn ysbrydoliaeth lwyr.

 

Ryan Foot: Mae Ryan yn 22 oed ac yn dod o Abergwaun.

Pan aned Ryan, bach iawn o glyw a oedd ganddo ac mae bellach yn gwisgo dau gymorth clyw.

Mae wedi cynrychioli Cymru mewn gymnasteg a rygbi.

Bu’n cystadlu mewn gymnasteg yn y Gemau Olympaidd Arbennig yng Nghaerlŷr yn 2009 pan ef oedd yr athletwr ieuengaf, a daeth adref gyda thair medal arian a phedair medal efydd.

Chwaraeodd Ryan i Gymru yng Nghwpan Rygbi Saith Bob Ochr y Byd Pobl Fyddar yn Awstralia a daeth adref yn Bencampwr Byd. Mae Ryan hefyd wedi ennill cap ar lefel 15 bob ochr.

Hefyd, mae Ryan yn Llysgennad Platinwm ar ran Chwaraeon Sir Benfro ac mae’n ymrwymo i annog pobl eraill i ddechrau rhyw fath o weithgarwch chwaraeon neu hamdden.

 


ID: 8826, revised 28/06/2022