Bydd rownd ddiweddaraf taliadau Llywodraeth Cymru yn gysylltiedig ag ardrethi annomestig, i fusnesau y mae cyfyngiadau cenedlaethol Covid-19 wedi effeithio arnynt, yn dod i ben ddiwedd mis Mawrth 2021.
Gwnaed taliadau awtomatig i’r busnesau hynny a oedd eisoes wedi cael taliadau dan Grant Ardrethi Annomestig y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau a’r Estyniad i Grant Ardrethi Annomestig y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau.
Os nad yw busnesau wedi derbyn taliad awtomatig, gofynnir iddynt wneud cais cyn diwedd mis Mawrth. Mae’r meini prawf a’r broses ymgeisio ar gyfer y grant i’w gweld yn: https://www.sir-benfro.gov.uk/cyngor-a-chefnogaeth-i-fusnesau
Mae’r dudalen we hefyd yn cynnwys cwestiynau cyffredin am y grantiau sydd ar gael, ynghyd â chefnogaeth arall sydd ar waith i helpu busnesau yn ystod y pandemig Covid-19.
Os oes gennych ymholiad neu gwestiwn am y grantiau, anfonwch neges e-bost at covid19businesssupport@pembrokeshire.gov.uk