Ystafell Newyddion

Y Cabinet yn cefnogi’r camau cyntaf tuag at ailadeiladu Ysgol Wirfoddol a Reolir yr Eglwys yng Nghymru Maenorbŷr

Mae Cabinet Cyngor Sir Penfro wedi cefnogi camau cadarnhaol tuag at ailadeiladu Ysgol Wirfoddol a Reolir yr Eglwys yng Nghymru Maenorbŷr ar ôl i dân ddifrodi’r ysgol yn ddifrifol y llynedd.

Cyfarfu’r Cabinet ddydd Llun a rhoddodd gefnogaeth i £25,000 ar gyfer astudiaeth i bennu amcan o gostau ar gyfer ailadeiladu’r ysgol ac, yn amodol ar y prosesau priodol, gwahodd a gwerthuso tendr i ddylunio ac ailadeiladu’r rhannau o’r ysgol a ddifrodwyd.

Dywedwyd wrth y Cabinet mai adfer yr ysgol yn llawn oedd yr opsiwn a ffefrir.

Er mwyn lleihau unrhyw darfu pellach ar ddysgu a lles disgyblion, cynigir y bydd yr ysgol yn parhau i weithredu o Neuadd Gymunedol Jameston tra bod gwaith ar yr ysgol yn cael ei gwblhau.

Dywedodd y Cynghorydd Guy Woodham, yr Aelod Cabinet ar gyfer Addysg a’r Gymraeg, “Mae swyddogion wedi gweithio’n agos gyda’r ysgol i sicrhau bod yr ysgol wedi gallu gweithredu mor effeithiol ag y bo modd ar ôl y tân, gan roi blaenoriaeth i leihau’r tarfu i ddysgwyr a staff.”

Diolchodd y Cynghorydd Woodham i ymddiriedolwyr Neuadd Gymunedol Jameston am eu haelioni, eu cefnogaeth a’u cymorth ers y tân.

Mae cytundeb yn cael ei gwblhau ar gyfer parhau i ddefnyddio Neuadd Gymunedol Jameston, ac mae taliad interim wedi’i wneud i’r Gymdeithas Gymunedol.

Roedd yr adroddiad i Aelodau’r Cabinet yn dweud bod y sefyllfa ar ôl y tân wedi bod yn un gymhleth gyda nifer o bartneriaid yn gysylltiedig, gan gynnwys Esgobaeth Tyddewi a chwmnïau yswiriant.

Amlinellodd y Cynghorydd Woodham lu o faterion yn ymwneud ag addysg, yswiriant, eiddo, tai, adeiladau a materion contractiol y bu swyddogion yn gweithio arnynt y tu ôl i’r llenni.

Er enghraifft, mae’r ysgol yn dod o dan drefniadau yswiriant y Cyngor, ond mae’r tŷ ysgol cyffiniol – a ddifrodwyd yn ddifrifol hefyd – yn dod o dan drefniadau yswiriant yr Esgobaeth.

Mae tenantiaid tŷ’r ysgol wedi cael eu cartrefu mewn byngalo cwbl hygyrch gan y Cyngor ers y tân.

Er nad yw cost lawn adfer yr ysgol yn hysbys, rhagwelir y bydd y rhan fwyaf ohoni, os nad y cyfan, yn cael ei thalu gan yr yswiriant.

Roedd yr adroddiad yn cydnabod y byddai adfer yr ysgol yn cymryd cryn amser, hyd at ddiwedd y flwyddyn academaidd 2024/2025 o bosibl.

Yn dilyn y cyfarfod, dywedodd y Cynghorydd Woodham: “Rwy’n hynod falch fod y Cabinet wedi cefnogi’r camau cyntaf pwysig hyn tuag at adfer Ysgol Maenorbŷr.

“Bydd prosesau i’w dilyn nawr, ond yr opsiwn yr ydym wedi’i ffafrio erioed yw ailadeiladu, a chredwn y bydd hyn yn darparu amgylchedd addysgol sefydlog i ddisgyblion a staff ar gyfer y tymor hir.

 “Ers y diwrnod cyntaf, mae ein ffocws wedi bod ar gefnogi’r disgyblion a’r staff yn yr ysgol, yn addysgol ac yn emosiynol, ac mae swyddogion wedi bod yn gweithio’n galed yn y cefndir i gyrraedd y man hwn.

“Byddwn yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r holl rieni, disgyblion a phartïon eraill â buddiant wrth i ni symud ymlaen.”


ID: 9762, revised 13/03/2023