Ystafell Newyddion
Y Cynllun Prydau Ysgol Am Ddim i Bawb yn Dechrau Cael ei Weithredu ym mis Medi
Mae Cyngor Sir Penfro yn croesawu dechrau gweithredu cynllun Llywodraeth Cymru i ddarparu prydau ysgol am ddim i bawb mewn ysgolion cynradd.
O fis Medi, bydd plant mewn Dosbarthiadau Derbyn ac ym Mlwyddyn 1 a 2 ar sail amser llawn yn derbyn prydau ysgol am ddim, a bydd hyn yn cael ei ymestyn i bob disgybl mewn ysgolion cynradd erbyn mis Medi 2023.
Bydd yr ymgymeriad sylweddol hwn yn helpu teuluoedd ledled y sir, yn enwedig o ystyried yr argyfwng digynsail o ran costau byw.
Dywedodd y Cynghorydd Guy Woodham, Aelod Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg yng Nghyngor Sir Penfro: “Byddwn yn cyflwyno hyn ar gyfer y plant ieuengaf yn gyntaf, gan helpu i fynd i’r afael â thlodi plant a sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn llwgu yn yr ysgol.
“Yn ogystal ag annog bwyta’n iach, bydd y cam sylweddol hwn yn cynyddu’r ystod o fwyd y mae disgyblion yn ei fwyta, yn gwella sgiliau cymdeithasol a lles yn ystod amseroedd bwyd – ac yn arwain at welliannau mewn ymddygiad a chyrhaeddiad.”
Bydd rhagor o fanylion am brydau ysgol am ddim i ddysgwyr ieuengaf Sir Benfro yn dilyn yn ddiweddarach yr wythnos hon.