Cafodd y Gronfa Busnesau dan Gyfyngiadau a gyflwynwyd i gefnogi sectorau busnes yr oedd y cyfyngiadau Covid-19 ychwanegol yn effeithio arnynt ei rhoi ar waith gan Lywodraeth Cymru ar 4 Rhagfyr 2020.
Cyn gwyliau'r Nadolig, fe wnaeth Cyngor Sir Penfro 718 o daliadau Grant Ardrethi Annomestig y Gronfa Busnesau dan Gyfyngiadau NDR, sef cyfanswm o £2.5m a bydd wedi prosesu'r holl daliadau awtomatig sy'n weddill erbyn diwedd yr wythnos hon.
Os nad ydych wedi derbyn hysbysiad drwy e-bost y byddwch yn derbyn taliad awtomatig erbyn diwedd heddiw (dydd Iau 7 Ionawr) yna gwnewch gais am y grant cyn gynted â phosibl.
Bydd taliadau'n cyrraedd cyfrifon banc yn gynnar yr wythnos nesaf.
Bydd y Gronfa Busnesau dan Gyfyngiadau hefyd yn agored i ymgeiswyr o fusnesau manwerthu nad ydynt yn hanfodol i wneud cais heddiw.
I gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais, gweler https://www.sir-benfro.gov.uk/cyngor-a-chefnogaeth-i-fusnesau
Bydd unrhyw grantiau pellach a fydd ar gael yn cael eu hysbysebu drwy ddatganiadau pellach i'r wasg a rhoddir manylion ar y wefan uchod.
Bydd diweddariadau pellach yn cael eu cyhoeddi maes o law am y Grant Dewisol Busnesau dan Gyfyngiadau.