Ystafell Newyddion
Ymunwch â Grŵp Rhanddeiliaid Bwrdd Rheoli Maetholion Gorllewin Cymru
Ydy iechyd ein hafonydd yn bwysig ichi? A oes gennych ddiddordeb mewn ansawdd dŵr yn y rhanbarth, a ydych yn gyfrifol amdano neu a yw'n effeithio arnoch? Os felly, beth am ymuno â'r Grŵp Rhanddeiliaid Afonydd i helpu i weithio i ddiogelu ac i wella afonydd Cleddau, Teifi a Thywi.
Mae'r Byrddau Rheoli Maetholion yn chwilio am aelodau newydd i sefydlu Grŵp Rhanddeiliaid i helpu i ddatblygu Cynllun Rheoli Maetholion ar gyfer ardal Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.
Wrth ddod yn aelod o'r Grŵp Rhanddeiliaid, gallwch:
- Helpu i adfer ac i ddiogelu iechyd ein hafonydd.
- Profi syniadau newydd, technoleg, a dysgu am fesurau lliniaru.
- Cyfarfod â phobl a sefydliadau o'r un meddylfryd sy'n ceisio cyflawni'r un nod cyffredin.
Os oes gennych ddiddordeb, dewch i'r Digwyddiad i Randdeiliaid Afonydd a gynhelir yn Ystafell Cothi, Canolfan Halliwell, Caerfyrddin ddydd Mercher, 31 Mai 2023 rhwng 10am a 4pm. Darperir cinio ysgafn a lluniaeth.
Mae llygredd ffosfforws yn nalgylchoedd Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) Cymru yn fater difrifol sydd y tu hwnt i atebion hawdd, ac mae mwy na 60% o'n hafonydd ACA mwyaf gwerthfawr yn methu o ran y targedau ffosffad. Mae Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Gorllewin Cymru, sef Afon Cleddau, Afon Teifi ac Afon Tywi, yn cefnogi rhai mathau o fioamrywiaeth mwyaf gwerthfawr y wlad ac yn ffynonellau pwysig i'w cymunedau o ran iechyd a llesiant.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn arwain Cymru yn yr ymdrech i fynd i'r afael â gormod o faetholion sy'n mynd i'r dyfrffyrdd. Sir Gaerfyrddin oedd y sir gyntaf yng Nghymru i ddylunio Cyfrifiannell Cyfrifo Maetholion ac, ynghyd â Chynghorau Sir Penfro a Cheredigion, mae wedi sefydlu Grŵp Rhanddeiliaid Afonydd Gorllewin Cymru, sy'n ymestyn ar draws ffiniau'r siroedd ac yn ystyried y tri dalgylch afon.
Nid yw'r mater o ran ffosfforws yn un y gellir ei reoli ar wahân gan fod llwythi gormodol o faetholion yn tarddu o sawl ffynhonnell. I gael ateb mae angen ymwneud â'r holl randdeiliaid sy'n gyfrifol am fewnbynnau o'r fath.
Ynghylch y Bwrdd Rheoli Maetholion
Mae'r Bwrdd Rheoli Maetholion yn gyfrifol am nodi a gweithredu camau sy'n cyrraedd targed cadwraeth afon, a ystyrir yn Ardal Cadwraeth Arbennig, sy'n ffafriol o ran ffosfforws (SAC), yn ogystal â diwallu anghenion economaidd-gymdeithasol ei chymunedau cyfagos. Mae tri Bwrdd Rheoli Maetholion wedi cael eu ffurfio yng ngorllewin Cymru; Bwrdd Rheoli Maetholion Afon Tywi, Bwrdd Rheoli Maetholion Afon Cleddau a Bwrdd Rheoli Maetholion Afon Teifi.
Dywedodd Aelod y Cabinet dros Gynllunio a Chadeirydd Bwrdd Rheoli Maethynnau Cleddau, y Cynghorydd John Harvey: “Mae adnoddau naturiol gwerthfawr afonydd Cleddau, Tywi a Theifi yn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, ac maen nhw’n rhan annatod o fioamrywiaeth y rhanbarth.
“Mae angen ymagwedd amlhaen i leihau a rheoli llygredd ffosfforws, ac anogaf unrhyw un sy’n pryderu am iechyd ac ansawdd dŵr ein hafonydd i ymuno â ni yn y digwyddiad hwn sydd ar ddod a chyfrannu at ddatblygu Cynllun Rheoli Maethynnau.”
Cynhelir y digwyddiad i Randdeiliaid Afonydd yn Ystafell Cothi, Canolfan Halliwell, Caerfyrddin ddydd Mercher, 31 Mai 2023 rhwng 10am a 4pm.
Mae gwahoddiad agored i bawb, ond i helpu i drefnu'r lluniaeth, gofynnir ichi ymateb eich bod yn bwriadu bod yn bresennol trwy gysylltu â Laurel E Carrington, Swyddog Rheoli Maetholion ar gyfer Cyngor Sir Caerfyrddin: lecarrington@sirgar.gov.uk